Cwrs Cymraeg dwys i ddechreuwyr yw Wlpan. Fe ddaw o'r gair Hebraeg am stiwdio (אולפן, wlpán), gan fod cyrsiau Hebraeg yn Israel wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r cwrs.[1]Elwyn Hughes oedd un o arloeswyr y cwrs, a threfnir gwersi yn defnyddio'r dull hwn gan Ganolfannau Cymraeg i Oedolion ledled Cymru. Mae'r pwyslais ar Gymraeg llafar, a'r bwriad yw dysgu sylfeini'r iaith mewn amser byr. Mae gwahanol fersiynau o'r cwrs yn adlewyrchu tafodieithoedd gwahanol ardaloedd yng Nghymru.[2]

Wlpan

Ymysg lladmeryddion a gweithredwyr cynharaf y cwrs oedd Chris Rees a Gwilym Roberts a ddechreuodd ddysgu'r cwrs yng Hen Ganolfan yr Urdd, Heol Conwy, Caerdydd yn 1973.[3]

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Crowe, A. (1988a). Yr Wlpan yn Israel. Aberystwyth: Canolfan Ymchwil Cymraeg i Oedolion.
  2.  Coleg y Brifysgol, Bangor. Beth yw Cwrs WLPAN?. Gwefan Prifysgol Bangor. Adalwyd ar 3 Mai 2012.
  3. "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru. 23 Awst 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.