Meddalwedd blogio a system rheoli cynnwys cod agored a rhydd ydy WordPress wedi ei selio ar PHP a MySQL. Mae ganddo sawl nodwedd gan gynnwys pensaernïaeth ategion a system patrymluniau. Mae WordPress yn cael ei ddefnyddio gan dros 16.7% o'r "miliwn prif wefan" yn ôl cwmni dadansoddi data'r we Alexa Internet ac o Awst 2011, dyma oedd yn gyrru 22% o holl wefannau newydd.[1] Ar hyn o bryd WordPress ydy'r system blogio mwyaf poblogaidd ar y we.[2][3]

Sgrinlun o'r bwrdd rheoli
Mae'r erthygl yma am y meddalwedd blogio. Ar gyfer y lletywr blogiau, gweler WordPress.com

Rhyddhawyd yn gyntaf ar 27 Mai 2003, gan Matt Mullenweg a Mike Little.[4][5] Erbyn Rhagfyr 2011, roedd fersiwn 3.0 wedi cael ei lawr lwytho dros 65 miliwn o weithiau.[6]

Hanes golygu

Datblygwyd y rhaglen rhwng 2001 a 2002 gan Michel Valdrighi ar raglen blogio PHP o'r enw b2/Cafelog, a ryddhawyd dan drwydded GPL. Datblygwyd hwn ymhellach gan Matthew Mullenweg yn 2003 gyda'r nod o symlhau'r broses o weawduro.[7] Cyhoeddodd hyn ar ei flog a chychwynodd weithio ar WordPress gyda Mike Little.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rao, Leena (19 August 2011). "WordPress Now Powers 22 Percent Of New Active Websites In The U.S." TechCrunch. Cyrchwyd 28 September 2011.
  2. "Usage of content management systems for websites". Cyrchwyd 8 August 2011.
  3. "CMS Usage Statistics". BuiltWith. Cyrchwyd 2011-08-26.
  4. Mullenweg, Matt. "WordPress Now Available". WordPress. Cyrchwyd 2010-07-22.
  5. "Commit number 8".
  6. "WordPress Download Counter". wordpress.org. Cyrchwyd 2011-02-10.
  7. The Blogging Software Dilemma.

Dolenni allanol golygu