Wormwood Scrubs (Carchar EM)

Carchar lleol Categori B yn Lloegr ydy'r Wormwood Scrubs ("The scrubs" yn anffurfiol), sy'n derbyn carcharorion i'w cadw yn y ddalfa neu ar ôl cael eu dedfrydu. Lleolir i'r de o Wormwood Scrubs ym Mwrdeistref Llundain, Hammersmith a Fulham. Adeiladwyd yn yr 1880au, gan ddefnyddio llafur y carcharorion. Roedd yn dal carcharorion benywaidd a gwrywaidd hyd at 1902. Mae llety ar gyfer 1256 o garcharorion ym mhum adain yr adeilad heddiw.

Wormwood Scrubs
MathHM Prison Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Hammersmith a Fulham
Sefydlwyd
  • 1874 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWormwood Scrubs Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5167°N 0.2403°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganHis Majesty's Prison Service Edit this on Wikidata
Map

Carcharorion enwog golygu

  • David James Jones (Gwenallt): Bu'r llenor, un o feirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus yr 20g, yn garcharor yn y Scrubs ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybod i wasanaeth milwrol. Seilir ei nofel Plasau'r Brenin (1934) ar ei brofiad.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.