Blaen y pen yw wyneb, sy'n enw gwrywaidd, rhan o gorff anifail, sy'n cynnwys llawer o'r organau teimlo e.e. y llygad, y trwyn, croen a'r tafod.[1][2] O ran person, yr wyneb yw'r rhan o'r corff sydd hawddaf i adnabod y person.

Wyneb hen wraig o Gambia.
Un o'r wynebau enwocaf: wyneb y Mona Lisa gan da Vinci.

Delweddau golygu

Yn Gymraeg, mae rhan fflat llawer o wrthrychau'n cael eu galw'n wyneb: wyneb y dudalen, wyneb ffordd a sonir am "wyneb llyfr" neu arw gwrthrychau hefyd. Pan fo dau berson yn cyfarfod ei gilydd, dywedir eu bont wedi dod wyneb yn wyneb a'i gilydd. Yn y Saesneg, caiff ei ddefnyddio am ffrynt adeilad - yr ochr sy'n wynebu'r cyhoedd, fel arfer: y rhan a elwir yn "facade", ond yn Gymraeg mae'r gair "tu" neu "tal" yn cael ei ddefnyddio fel yn "tu blaen" neu "talcen". Dywedir hefyd fod person yn medru bod yn "wyneb galed", sy'n golygu ei fod yn ddigywilydd.

Pan nad oes darmac ar ffordd, dywedir ei fod yn "ddiwyneb".[3]

Rhannau'r wyneb golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Face | Define Face at Dictionary.com. Dictionary.reference.com. Adalwyd ar 2011-04-29.
  2. Anatomy of the Face and Head Underlying Facial Expression Archifwyd 2007-11-29 yn y Peiriant Wayback.. Face-and-emotion.com. Adalwyd 2011-04-29.
  3. "Cyngor Sir Gwynedd; adalwyd 29/07/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-31. Cyrchwyd 2012-07-30.
Chwiliwch am wyneb
yn Wiciadur.