Y Deuddeg Apostol

disgyblion yr Iesu yn nhraddodiad Cristnogaeth

Yn ôl efengylau y Testament Newydd, roedd gan Iesu ddeuddeg disgybl y rhoddodd awdurdod arbennig iddynt. Gelwir y rhain yn y Deuddeg Apostol. Rhoddir yr enw "apostol" hefyd i lond llaw o ffigurau eraill yn y Testament Newydd.

Iesu a'r Apostolion yn Y Swper Olaf gan Leonardo da Vinci

Rhestrir enwau'r deuddeg yn Efengyl Mathew (10:2–4) ac Efengyl Marc (3:16–19). (Trefnir yr enwau ychydig yn wahanol yn y ddwy efengyl.)

  1. Pedr (neu Simon)
  2. Iago fab Sebedeus
  3. Ioan, brawd Iago
  4. Andreas
  5. Philip
  6. Bartholomeus
  7. Mathew
  8. Thomas
  9. Iago fab Alffeus
  10. Thadeus
  11. Simon y Selot (neu Simon y Canaanead)
  12. Jwdas Iscariot

Ar ôl i Jwdas Iscariot fradychu Iesu a'i grogi ei hun, etholodd yr apostolion eraill Mathias i gymryd ei le.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.