Arwydd hynafol a ddefnyddid i wysio rhyfelwyr i'r gad yn Ucheldiroedd yr Alban gynt.

Ffurfid croes allan o ddau ddarn pren â'u pennau wedi'u llosgi a'u trwchu mewn gwaed gafr. Byddai pennaeth clan yn ei hanfon wedyn o le i le yng ngofal negeswyr buan. Roedd unrhyw rhyfelwr oedd yn perthyn i'r clan yn rhwym i ateb yr alwad ar boen marwolaeth. Dywedir bod yr arfer wedi parhau mewn rhannau o'r Ucheldiroedd hyd at Wrthryfel 1745.