Rhanbarth daearyddol yng ngogledd Llychlyn sy'n bennaf o fewn Cylch yr Arctig yw'r Lapdir[1] (Sameg gogleddol: Sápmi; Norwyeg a Swedeg: Sameland; Ffinneg: Lappi). Mae'n ymestyn o Fôr Norwy i'r Môr Gwyn, ar draws gogledd Norwy, gogledd Sweden, gogledd y Ffindir, a Gorynys Kola yn Rwsia, efo Môr Barents i'r gogledd. Mae'n gartref i'r Lapiaid neu'r Sámi.

Y Lapdir
Mathrhanbarth, ardal ddiwylliannol, ethnic territory Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,000,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladNorwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd388,350 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau67.9°N 18.52°E Edit this on Wikidata
Map

Y Lapdir ydy cwr mwyaf gogleddol tir mawr Ewrop. Gorweddai'n gyffredinol rhwng Cylch yr Arctig a lledred 71° i'r gogledd, a rhwng hydred 15° a 43° i'r dwyrain. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 100,000 km², gan gynnwys bron 8,000 km² o ddŵr, hynny yw y llynnoedd sydd yn niferus yng ngogledd Llychlyn.

Nodweddir tirwedd y Lapdir gan fynyddoedd geirwon, ac ychydig o wastatir sydd yn naill ai coedydd tywyll, diffeithfaoedd caregog, neu wastadoedd corsog, heb braidd ddim ohono yn werth ei drin. Tarddai'r nifer fwyaf o afonydd y Lapdir o fynyddoedd Norwy ac yn llifo i Wlff Bothnia yn y Môr Baltig, rhwng Sweden a'r Ffindir. Ymhlith y coed lluosog yn yr ardal mae ffawydd, bedw, aethwydd, helyg, ac ysgo.

Yr anifeiliaid mwyaf eu maint yn y Lapdir yw carw Llychlyn, yr elc, yr arth frown, a'r blaidd. Ymhlith y mamaliaid eraill mae'r bele, y carlwm, y gewai, y llwynog, a'r afanc. Mae'r adar sydd i'w gweld yn aml yn y Lapdir yn cynnwys y gïach a'r gwyach, ac ymhlith pysgod yr ardal mae'r eog a'r brithyll.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 43.