Lluman a ddefnyddir gan rai sefydliadau llywodraethol Prydeinig, ac un o lumanau'r Deyrnas Unedig, yw'r Lluman Glas. Mae'n faner las gyda Baner yr Undeb yn y canton.

Y Lluman Glas, fel y defnyddir ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig

Gwelir defnydd helaeth ohoni mewn baneri hen drefedigaethau Prydain - boed yn wledydd neu'n daleithiau o fewn y gwledydd hynny e.e. taleithiau Canada ac thaleithiau Awstralia.

Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato