Grŵp o fynyddoedd yn Eryri yw'r Moelwynion. Cyfeiria'r enw yn enwedig at ddau fynydd ucha'r grŵp, Moelwyn Mawr (770m) a Moelwyn Bach (710m). Ceir nifer o hen chwareli llechfaen yn y bryniau hyn.

Y Moelwynion
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy, Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.036°N 3.98°W Edit this on Wikidata
Map
Tan-y-grisiau dan lethrau'r Moelwynion

Mae'r mynyddoedd yn gorwedd rhwng Cwm Ffestiniog yn y dwyrain a Nant Gwynant yn y gorllewin. I'r de mae'r Traeth Mawr, rhwng Tremadog a Phenrhyndeudraeth ac i'r gogledd ceir ardal o ucheldir gwlyb a chreigiog sy'n eu cysylltu â Moel Siabod yn y gogledd ac yn disgyn i gyfeiriad Dyffryn Lledr a Dolwyddelan i'r gogledd-ddwyrain.

Traddodiad golygu

Dywedir i Sant Twrog daflu maen anferth o ben y Moelwynion un tro. Glaniodd ym Maentwrog lle mae i'w gweld heddiw yng nghornel yr eglwys. Maen Twrog yw'r enw arno.

Copaon golygu

y Moelwynion, Eryri
Enw Cyfesurynnau OS Cyfesurynnau Daearyddol
Carreg y Foel-gron: SH744427  map  52.966°N, 3.871°W
Foel Boeth (y Moelwynion): SH804477  map  53.013°N, 3.784°W
Foel-fras: SH728481  map  53.015°N, 3.897°W
Manod Bach: SH714447  map  52.984°N, 3.917°W
Manod Mawr: SH724446  map  52.983°N, 3.902°W
Manod Mawr (copa gogleddol): SH727458  map  52.994°N, 3.898°W
Moel Farlwyd: SH707486  map  53.019°N, 3.929°W
Moel Pen-y-bryn: SH779496  map  53.029°N, 3.822°W
Moel Penamnen: SH716483  map  53.016°N, 3.915°W
Pen y Bedw (copa dwyreiniol): SH784470  map  53.006°N, 3.813°W
Pen y Bedw (copa gorllewinol): SH779469  map  53.005°N, 3.821°W
Y Gamallt (Graig Goch): SH751447  map  52.985°N, 3.861°W
Y Garnedd: SH742431  map  52.97°N, 3.874°W
(Moel Gamallt): SH743440  map  52.978°N, 3.873°W
Y Ro Wen: SH745498  map  53.03°N, 3.872°W
 
Lleoliad y copaon: rhwng y Bermo, Betws-y-Coed a'r Bala

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato