Y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol

Un o theatrau'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914–1918) oedd y Dwyrain Canol a welodd brwydro rhwng Ymerodraeth yr Otomaniaid, gyda chymorth o'r Pwerau Canol eraill, a'r Cynghreiriaid, yn bennaf yr Ymerodraeth Brydeinig ac Ymerodraeth Rwsia.

Y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol
Enghraifft o'r canlynoltheater of war Edit this on Wikidata
Dyddiad30 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Byd Cyntaf Edit this on Wikidata
Dechreuwyd29 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
Daeth i ben30 Hydref 1918 Edit this on Wikidata
LleoliadCanolbarth Asia, Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Gallipoli, Chwefror i Ebrill 1915.

Ar ddechrau mis Tachwedd 1914, datganodd Ymerodraeth yr Otomaniaid jihad filwrol yn erbyn Ffrainc, Rwsia, a Phrydain, gan obeithio ennill rhagor o diriogaethau trwy ymochri ag Ymerodraeth yr Almaen yn erbyn y Cynghreiriaid. Ymatebodd Prydain trwy ddanfon llu Eingl-Indiaidd i Basra i warchod y bibell olew Eingl-Bersiaidd. Ar ddechrau mis Chwefror 1915 ymosododd y Pwerau Canol ar Gamlas Suez gan geisio cyffroi gwrthryfel Islamaidd yn yr Aifft, ond methant.

Ceisiodd Prydain orfodi'r Otomaniaid allan o'r rhyfel trwy ymgyrch lyngesol, ond methodd y Llynges Frenhinol i frwydro trwy'r Dardanelles a chyrraedd Istanbwl. Yn lle hynny, trefnwyd byddin ymdeithiol i lanio ar Gallipoli. Bu colledigion mawr i'r Cynghreiriaid ym Mrwydr Gallipoli ac enciliwyd eu lluoedd. Cafodd llu Eingl-Indiaidd ei amgylchynu yn Kut-el-Amara ym Mesopotamia, ac ildiodd yn Ebrill 1916. Yn wyneb y methiannau hyn, cynyddodd Prydain ei hymdrechion rhyfel yn y Dwyrain Canol. Codwyd byddin fawr a modern ym Mesopotamia dan y Cadfridog Syr Stanley Frederick Maude, ac yn yr Aifft cychwynnodd Byddin Ymdeithiol yr Aifft oresgyniad am Balesteina. Cychwynnodd y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn yr Otomaniaid, ac enillodd cymorth gan Brydain.

Ym Mawrth 1917 cipiodd lluoedd Maude Baghdad a gwthiwyd lluoedd yr Otomaniaid allan o Orynys Sinai ond methodd Prydain i gipio Gaza ddwywaith. Erbyn Rhagfyr, llwyddodd y Prydeinwyr i gipio Jeriwsalem dan y Cadfridog Syr Edmund Allenby, a threchodd yr Otomaniaid eto ym Mrwydr Megiddo ym Medi 1918. Cwympodd Damascus ac Aleppo i'r Cynghreiriaid ym mis Hydref, ac arwyddwyd cadoediad â'r Otomaniaid.

Ffynhonnell golygu

  • Ford, Roger. Eden to Armageddon: World War I in the Middle East (Llundain, Phoenix, 2010).