Mae'r ethygl yma am y gwaith athronyddol gan Platon. Am y wladwriaeth fel sefydliad, gweler Gwladwriaeth.

Gwaith pwysicaf yr athronydd Groegaidd Platon yw Y Wladwriaeth (Groeg: Πολιτεία "Politeía"). Mae dadansoddiad Platon o'r wladwriaeth yn fan cychwyn ym myd athroniaeth fodern.

Prif thema golygu

Prif bwnc Y Wladwriaeth ydy 'cyfiawnder'. Mae Platon yn cyflwyno 'cyfiawnder' fel deialog ddychmygol, gyda Socrates yn gwrthwynebu syniadau Cephalus, Polemarchus a Thrasymachus.

  • Cephalus – Cyfiawnder = gonestrwydd :Plato ddim yn cytuno oherwydd dywedir fod gwallgofddyn yn gofyn 'Ble mae'r fwyell?', yn ôl mesur Cephalus o gyfiawnder mi fyddai'r person cyfiawn yn bod yn onest ac yn dweud ble mae'r fwyell ac mi fyddai'r canlyniadau'n flêr.
  • Polemarchus – Cyfiawnder = Cymorth i gyfeillion ond niweidio'r gelynion : Plato yn ansicr y medr bod yn sicr pwy yw'n cyfoedion a pwy yw'n gelynion
  • Thrasymarchus - Cyfiawnder = Buddiannau’r sawl sydd gryfaf: Methu bod yn sicr drwy'r amser beth sy'n fuddiol ac o ganlyniad i'r penderfyniad anghywir gallasai'r buddiol droi'n anfuddiol a chanlyniad hynny fyddai i'r cyfiawn droi'n anghyfiawn.

Mae Plato yn gwrthod derbyn y tri syniad creiddiol yna o gyfiawnder felly Plato am fynd yn ôl i'r dechrau. Y dechrau i Plato ydy trafod y pethau syml, sef anghenion goroesi, bwyd ayyb... Mewn cymdeithas rhaid cael cydweithio i oroesi, gwahanol bobl a gwahanol arbenigaethau e.e. un yn arbenigo mewn cynhyrchu dillad, un mewn bwyd, un mewn adeiladu ayyb... Dyma sut mae cymdeithas yn datblygu a thyfu yn ôl Plato.

Mae'r syniad yma o fod gan bawb ei arbenigaeth yn greiddiol i syniad Plato o gyfiawnder, fe'u gelwir hefyd yn rhaniad llafur. Yn ôl Plato gellir crynhoi adeiladwaith cymeriad dyn i mewn i dri chategori:

1. Meddwl – tynnu casgliadau

2. Cymhellion naturiol, ein hanghenion ein chwantau

3. Ochr angerddol hanner ffordd rhwng 1+2

Dywed Plato fod dawn dyn i resymu yn gadael iddo ddewis y balans priodol rhwng y tri ffactor uchod o'i gymeriad. Cred Plato fod y balans rhwng y tri ffactor mynd i fod yn wahanol mewn gwahanol bobl am resymau megis addysg, hyfforddiant ayyb... mi fydd y gwahaniaethau yma yn arwain i raniad llafur neu'r gwahanol arbenigaethau. Mae'r balans gwahanol yma o fewn gwahanol bobl yn ôl Plato yn medru torri dynion i lawr i fod yn un o dair enaid:

1. Enaid Aur – Yr athronydd

2. Enaid Arian – Y Milwr

3. Enaid Efydd – Y Masnachwyr a'r cyffredin

Dameg 'yr ogof' golygu

Dameg yw ‘myth yr ogof’, un o rannau os nad y rhan enwocaf o’r Wladwriaeth. Mae’n amlygu’r gwahaniaeth rhwng y bobl sydd yn athronwyr ar rhai sydd ddim, ac yn tanlinellu dyletswydd yr athronydd.

Crynodeb o ‘fyth yr ogof’

Yn yr ogof mae’r carcharorion, does dim golau dydd yn dod i mewn atynt, dydyn nhw ddim yn cofio adeg pan nad oeddent yn garcharorion felly dydyn nhw ddim yn sylwi eu bod nhw yn garcharorion. Cyn belled ac maen nhw’n gwybod dyna ydy’r norm, dydyn nhw ddim yn gwybod yn well. Bydd siapiau yn ymddangos a diflannu o flaen y carcharorion, ac mi fydd y carcharorion yn eu trin ai trafod. Mae’r carcharorion yn hapus eu byd oherwydd nad ydynt yn medru dychmygu unrhyw beth gwahanol a gwell.

Mae yna ffordd wedi ei godi yn croesi ar hyd yr ogof ac mae siapiau 2D yn cael eu cario ar eu traws yn adlewyrchu'r pethau mae’r carcharorion yn eu gweld, mae’r carcharorion yn tybio mai pethau go-iawn ydyn nhw. Maen nhw trafod y delweddau ac yn eu henwi tra mewn gwirionedd y realiti ydy mai dim ond cysgodion o siapiau maen nhw yn eu gweld. Mae yna dan tu draw i’r ffordd, ac er nad ydy’r carcharorion yn gwybod ei fod e yna dyna yw ffynhonnell eu gwybodaeth yn yr ogof, y tan sy’n adlewyrchu’r siapiau. Mae un o’r carcharorion yn llwyddo i dorri'r cadwyni a dechrau cerdded fyny’r ffordd tuag at olau dydd, mae’n gweld beth oedd yn tybio oedd yn wirionedd cynt sef y tan yn taflu cysgodion.

Ar ôl iddo ddod allan o’r ogof mae golau dydd yn ei ddallu ond wedi iddo ymgyfarwyddo a gweld y prydferthwch real mae’n ysu i fynd nôl i mewn at y carcharorion eraill i’w haddysgu. Ar ôl i’r un a ddihangodd fynd nôl i mewn mae’n esbonio yr hyn mae wedi canfod i’r gweddill ond mae’r gweddill yn ei wfftio oherwydd bod ei syniadau yn hollol wrthun i’r hyn maen nhw wedi ei gymryd fel y norm erioed. Yn y mae gweddill y carcharorion yn ei ladd oherwydd eu bod nhw’n fwy cyfforddus gyda’r byd maen nhw’n ei adnabod ac yn ei ddeall er bod yna fyd gwell i’w ddarganfod pe wyddant. Beth yw ei goblygiadau i ymresymu Plato yn y wladwriaeth... I ddechrau gwerth fyddai ein hatgoffa mae i raddau rhyw fath o deyrnged i Socrates ydy gweithiau Plato yn enwedig y Wladwriaeth. Felly gellid gweld mae'r carcharor sy’n torri i ffwrdd ac yna yn dod yn ôl i oleuo pawb arall ac yna yn cael ei ladd oherwydd ei syniadau ydy Socrates. Un o brif ddadleuon Plato ydy fod yna wahanol fathau o bobl, yn eneidiau efydd, arian ac aur. Yn nameg yr ogof mae’n dod yn amlwg fod yna oleuaf 2 math o enaid yn y stori. Yn gyntaf y carcharorion, ag eneidiau efydd ac yn ail yr un sy’n torri ffwrdd sef yr enaid aur sef yr athronydd. Mae’r stori hefyd yn bwysig i ddangos i ni neges Plato fod angen ac yn ddyletswydd i’r athronwyr addysgu ac arwain y ffordd. Dyna sydd i’w weld yn ‘myth yr ogof’.

Llyfryddiaeth golygu