Tro ar afon a geir pan ymddolenna ei llif yw ymddoleniad. Mae'n dirffurf sy'n nodweddiadol o afonau mewn dyffrynnoedd eang pan fo llif y dŵr yn arafu a'r afon yn ceisio'r ffordd rwyddaf.

Ymddoleniad ar Afon Niger mewn siap 'W'

Ceir enghraifft drawiadol o ymddoleniad ym Mharc Cenedlaethol W yng ngorllewin Affrica, lle mae afon Niger yn ffurfio ymddoleniad ar siâp "W", gan roi i'r parc ei enw.

Ceir sawl enghraifft o ymddoleniaid ar afonydd Cymru, er enghraifft yn Nyffryn Dysynni, Gwynedd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.