Ymdeithiwr y pinwydd

Pine Processionary
Lindys ar ôl lindys mewn prosesiwn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Thaumetopoeidae
Genws: Thaumetopoea
Rhywogaeth: T. pityocampa
Enw deuenwol
Thaumetopoea pityocampa
Denis & Schiffermüller, 1775

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw ymdeithiwr y pinwydd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy ymdeithwyr y pinwydd; yr enw Saesneg yw Pine Processionary, a'r enw gwyddonol yw Thaumetopoea pityocampa.[1][2] Mae i'w ganfod yng nghanol a de Ewrop. Caiff ei gyfri'n bla gan lawer.

Adult
'Pabell' wedi'i wneud gan y siani flewog ar goed pin.

Tua 35 mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan rhwng Mai a Gorffennaf.

Prif fwyd y lindys ydy coed pin, cedrwydden a llarwydden.

Ni ddylid cyffwrdd y siani flewog gan fod gwenwyn yn y pinnau bach sy'n gorchuddio'i chorff; gall problemau o'i chyffwrdd gynnwys urticaria.[3]

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r ymdeithiwr y pinwydd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. "Fabre, J-H. The Life of the Caterpillar. Chapter VI. The Pine Processionary: The Stinging Power". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-09. Cyrchwyd 2012-12-01.