Ynni niwclear yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dechnoleg sy'n ennill ynni trwy ddefnyddio adwaith niwclear, naill ai ymholltiad niwclear (Saesneg: nuclear fission) neu ymasiad niwclear. Ar hyn o bryd, dim ond ymholltiad niwclear a ddefnyddir yn fasnachol, lle mae'r adwaith niwclear yn cael ei reoli er mwyn berw dwr a chreu stêm, sy'n creu trydan.

Atomfa Trawsfynydd
Tair llong 'Task Force One' yr Unol Daleithiau, sy'n cael eu pweru gan ynni niwclear

Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni allan o faint cymharol fychan o fater.

Yn 2005, daeth 6.3% o ynni'r byd, a 15% o drydan y byd, o ynni niwclear. Y prif gynhyrchwyr oedd yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Japan. Cynhyrchodd y tri yma 56.5% o drydan o ynni niwclear y byd y flwyddyn honno.

Yn 2009 roedd 13-14% o drydan y byd yn dod o ynni niwclear[1] ac roedd dros 150 o longau milwrol yn cael eu gyrru gan yriant niwclear.

Defnydd golygu

Yn 2007, cafwyd adroddiad gan yr Asiantaeth Ynni Atomig y Byd (Saesneg: International Atomic Energy Agency, neu'r IAEA) fod 439 atomfa niwclear ledled y byd.[2]

Atomfa golygu

Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239); yng Nghymru roedd dwy atomfa yma: Wylfa (Môn) a Thrawsfynydd. Agorwyd atomfa gyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 a'r cyntaf yng ngwledydd Prydain (Windscale) ym 1956.

Dechreuwyd adeiladu atomfa Wylfa yn 1963 a dechreuodd gynhyrchid trydan yn 1971 ac roedd yno ddau adweithydd Magnox (490 MW). Roedd y mwyaf a'r olaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Bydd yn dod i ben ar ddiwedd 2010.

Ceir atomfa hefyd yn Nhrawsfynydd, ond mae ers 1991 wedi dechrau cael ei ddad-gomisiynu. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu ym Mawrth 1965 a dechreuodd ar ei waith o gynhyrchu trydan yn Hydref 1968. Roedd ganddo ddau adweithydd Magnox ac roedd yn cynhyrchu 470MW o drydan.

Hanes golygu

Cychwynnwyd arbrofi gyda defnyddio ynni niwclear i greu trydan cyn gynted ag y darganfuwyd yr elfennau ymbelydrol megis radiwm. Sylweddolwyd y gallent ryddhau swm anferthol o ynni ond roedd harneisio'r ynni hwn yn dasg anodd iawn; yn wir mynnodd tad ffiseg niwclear sef Ernest Rutherford ei bod yn dasg amhosib. Ond ar ddiwedd y 1930au darganfuwyd theori o'r enw 'ymholltiad niwclear' a sylweddolodd nifer o wyddonwyr gan gynnwys Leo Szilard y byddai 'adwaith cadwynol' (Saesneg: chain reaction) yn hwyluso hyn.

Symudodd Fermi a Szilard i'r Unol Daleithiau a sefydlwyd yr adweithydd cyntaf yno, o'r enw Chicago Pile-1 gan lwyddo yn eu hymgais ar 02 Rhagfyr 1942. Daeth y gwaith hwn yn rhan o Brosiect Manhattan a lwyddodd i gynhyrchu plwtoniwm ar gyfer y ddau fom ar Japan. Felly, o'r cychwyn un, ail beth oedd ynni niwclear - creu bomiau niwclear oedd y bwriad gwreiddiol.

Ar 27 Mehefin 1954 agorodd yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn Obninsk - yr atomfa gyntaf (a'r adweithydd cyntaf) i gynhyrchu trydan ar gyfer grid cenedlaethol, gan lwyddo i gynhyrchu tua 5 megawatt o ynni trydanol.

 
Calder Hall yn 2007: safle adweithydd cyntaf Gwledydd Prydain.

Yn Sellafield agorwyd y cyntaf o bedwar adweithydd niwclear yn 1956 yn 'Calder Hall', ar draws y ffordd i Windscale - yr adweithydd cyntaf yng ngwledydd Prydain. Un o'r gwyddonwyr a oedd yn gyfrifol am y gwaith hwn ar y pryd oedd Owain Owain a gyhoeddodd nifer o ysgrifau a llythyrau yn y Faner a phapurau Cymraeg eraill yn rhybuddio pobl am berygl y lle. Gadawodd Windscale yn 1957 a chafwyd damwain enfawr yno'r flwyddyn ddilynol.[3][4]

Ynni niwclear yng Nghymru golygu

Bu dwy atomfa yng Nghymru: Atomfa'r Wylfa, Môn ac Atomfa Trawsfynydd. Yn Ionawr 2008 fe gyhoeddodd Llywodraeth Llundain eu bwriad i ddadwladoli llawer o'r atomfeydd ledled gwledydd Prydain; yn 2009 cyhoeddwyd eu pont yn cefnogi sefydlu 10 o atomfeydd gan gynnwys ail atomfa yn Wylfa. Fodd bynnag, mae'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn gwrthwynebu codi atomfa yng Nghymru.

Ynni niwclear drwy'r byd golygu

Mae gan 31 o wledydd adweithydd neu adweithwyr niwclear ac mae 15 o wledydd yn cynllunio neu'n creu adweithydd/ion gan gynnwys Twrci, Gogledd Corea, Gwlad Pwyl a Thwrci.

Gwastraff niwclear - y broblem fawr golygu

Unwaith mae'r rhodenni wraniwm mewn atomfa wedi 'llosgi' neu adweithio, ni ellir ei ddefnyddio ymhellach yn yr adweithydd. Mae hyn yn golygu fod cryn wastraff, a hwnnw'n ymbelydrol. Mae sawl labordy ac atomfa drwy'r byd yn ceisio ailgylchu'r gwastraff hwn. Mae'r gwastraff hwn yn hynod o beryglus ac nid oes ateb i'r broblem beth i'w wneud gydag e ar hyn o bryd. Mae'n cymryd 10,000 o flynyddoedd i'r gwastraff hwn golli ei ymbelydredd.

Ar ôl pum mlynedd mewn dŵr, mae'r gwastraff yn cael ei roi mewn cynhwysyddion concrid a dur. Yn yr Unol Daleithiau mae hyn oll yn digwydd ar safle'r atomfa. Hyd at 2007 roeddent wedi storio 50,000 tunnell fetrig o wastraff niwclear.

Deil y broblem o storio'r holl wastraff yn broblem ryngwladol nad oes ateb iddi.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Another drop in nuclear generation World Nuclear News, 05 Mai 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-07. Cyrchwyd 2010-06-15.
  2. ""Nuclear Power Plants Information. Number of Reactors Operation Worldwide"; cyhoeddwyd gan International Atomic Energy Agency. Adalwyd ar 21-06-2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-02-13. Cyrchwyd 2010-06-15.
  3. "Erthygl yn 'The Engineer'. Adalwyd 23-10/2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-05. Cyrchwyd 2010-06-15.
  4. Gwefan Owain Owain
  Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato