Ynys Arctig yng nghanolbarth gogledd Canada yw Ynys Baffin (Ffrangeg: Île de Baffin). Ynys Baffin yw ynys fwyaf Canada a'r bumed fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 507,451 km² (195,928 milltir sgwar); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 11,000 (2007). Fe'i henwir ar ôl y fforiwr o Brydain, William Baffin. Roedd y Llychlynwyr yn ei hadnabod fel Helluland. Iqaluit, Bae Frobisher gynt, yw cymuned mwyaf Ynys Baffin a phrifddinas diriogaethol Nunavut, tiriogaeth ieuengaf Canada. Mae nifer sylweddol o drigolion yr ynys yn bobl Inuit. Mae Ynys Baffin yn rhan o ranbarth Qikiqtaaluk.

Ynys Baffin
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilliam Baffin Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,148 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanadian Arctic Archipelago Edit this on Wikidata
SirNunavut Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd507,451 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,147 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau69°N 72°W Edit this on Wikidata
Hyd1,600 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Baffin

Cymunedau (yn ôl maint)  (ffigurau 2006) golygu

Iqaluit 6,184
Pangnirtung 1,325
Pond Inlet 1,315
Clyde River 820
Arctic Bay 690
Kimmirut 411
Nanisivik 0 (o 77 yn 2001- cau mwynglawdd)

Yn ogystal, ceir cymunedau Qikiqtarjuaq a Cape Dorset ar ynysoedd gerllaw.

 
Iqalit yw tref fwyaf Ynys Baffin
  Eginyn erthygl sydd uchod am Nunavut. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.