Ynysydd yw defnydd sy'n atal ynni trydanol neu thermol rhag deithio drwyddo, ac mae'n wrthwyneb i ddargludydd. Mae'r deunyddiau hyn yn cynnwys y mwyafrif o'r anfetelau elfennol ac anfetelau eraill, fel plastigion.

Ynysydd
Mathdeunydd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdargludydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ynysydd

Ynysyddion trydanol golygu

Er mwyn i drydan deithio drwy sylwedd, rhaid bod gwefrau ynddo sy'n medru symud a chario'r cerrynt. Mae'r llif gwefr yn trosglwyddo ynni trydanol o un man i fan arall yn y broses. Gellid cael electronau neu ïonau i drosglwyddo gwefr, felly rhaid i'r electronau mewn ynysydd fod yn lleoledig, ac mae'r bondiau cofalent mewn sylweddau anfetelig yn addas iawn ar gyfer eu dal mewn lleoliad pendant.

Ynysyddion thermol golygu

Mae ynysyddion thermol yn gweithio trwy atal un neu ragor o'r dulliau o drosglwyddo ynni thermol (gwres): dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae nifer wedi eu seilio ar briodweddau ynysyddol nwyon fel aer, ac maent yn dal swigod o aer yn eu hadeileddau e.e. asbestos, plu neu wlân. Er mwyn atal pelydriad mae angen dulliau eraill, a defnyddir wynebau sgleiniog i adlewyrchu'r tonnau isgoch yn ôl, rhag iddynt ddianc a throsglwyddo eu hynni thermol.

Fflasg wactod golygu

Mae fflasg wactod yn cyfuno'r dulliau o ynysu thermol mewn un gwrthrych.

  • Mae haen o wactod yn atal trosglwyddo ynni thermol trwy ddargludiad a darfudiad.
  • Defnyddir deunyddiau anfetelaidd yn rheolaidd er mwyn gostwng yr ynni collir trwy ddargludiad o amgylch y gwactod.
  • Mae'r ochrau wedi eu gorchuddio gan haen sgleiniog sy'n ymddwyn fel drych i atal colled gwres trwy belydriad.


  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.