Papur newydd Japaneg, ydy Yomiuri Shimbun (Japaneg: 読売新聞), gyda dau argraffiad bob dydd. Papur newydd â'r gwerthiant uchaf yn y byd ydyw, gyda gwerthiant o 14,323,781 yn Ionawr 2002 (cyfanswm o argraffiadau'r bore a'r hwyr). Fe'i gyhoeddir yn Tokyo, Osaka, Fukuoka, a dinasoedd pwysig eraill Japan, ac mae nifer o argraffiadau lleol gwahanol iddo. Mae ei bencadlys yn Tokyo.