Yr Hôb

pentref yn Sir y Fflint

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Yr Hôb[1] neu Llangyngar[2] (Saesneg: Hope), sy'n golygu 'tir caeëdig mewn cors' yn yr Hen Saesneg.[3] Mae ganddo boblogaeth o 2,522 (2001).

Yr Hôb
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.11882°N 3.04138°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000993 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ30705723 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJack Sargeant (Llafur)
AS/auMark Tami (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Hope", gweler Hope.

Gorwedd y pentref tua 4.5 km o'r ffin â Lloegr (Swydd Gaer), ar lannau Afon Alun. Mae'r Hob yn un o grŵp bychan o bentrefi lleol sy'n perthyn yn agos iawn i'w gilydd, yn cynnwys Caergwrle, Abermorddu a Cefn-y-Bedd. Prif dirffurf yr ardal yw Mynydd yr Hob, i'r gorllewin o'r pentref, gyda chwarel arno sydd wedi cau bellach.

Lleolir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y pentref; ceir ysgol gynradd yn ogystal, sef Ysgol Estyn.

Mae cysylltiadau cludiant da yn cysylltu'r Hôb a lleoedd fel Wrecsam, Caer a'r Wyddgrug, ac mae Reilffordd y Gororau yn ei gysylltu â Lerpwl i'r gogledd-ddwyrain.

Weithiau cyfeirir at Gastell Caergwrle fel "Castell yr Hôb", am ei fod yn gorwedd rhwng y ddau le. Enw'r eglwys leol yw Sant Cynfarch a Sant Cyngar, sy'n cyfeirio at ddau sant: Cynfarch (5g) a Cyngar ap Geraint (6g). Ceir cofeb liwgar a hynafol yn yr eglwys i Sion Trevor (1563–1630), Plas Teg, gwleidydd a mab Sion Trefor (m. 1589), ystad Trefalun.

Pobl nodedig o'r ardal golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Peter Clement Bartrum, A Welsh Classical Dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993)llgc.org.uk;
  3. Owen, Hywel Wyn (2017). Place-names of Flintshire. Ken Lloyd Gruffydd. Cardiff. tt. 97–8. ISBN 1-78683-110-4. OCLC 966205096.