Yr Hendre (Mynwy)

plasty yn Sir Fynwy; catref y teulu Rolls

Plasty o Oes Fictoria yn Sir Fynwy yw'r Hendre, a godwyd yn yr arddull Gothic. Fe'i lleolir ym mhlwy Llangatwg Feibion Afel, tua phedair milltir i'r gogledd-orllewin o Drefynwy. Yn y 18ed ganrif y cafodd ei godi ar gyfer saethu, ond cafodd ei ehangu gryn dipyn dair gwaith gan deulu Charles Stewart Rolls, un o ddau sefydlydd cwmni ceir Rolls Royce. Mae'r plasty wedi'i gofrestru gan Cadw fel Gradd II*.[1] Mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Glwb Golff Trefynwy.

Yr Hendre
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1829 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy, Llangatwg Feibion Afel Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr50.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8231°N 2.78681°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).[2]

Roedd yn arferiad ers talwm i ffermwyr symud eu hanifeiliaid yn y gwanwyn i dir uchel, a thros yr adeg yma byddent yn aros mewn cartref a alwant yn "hafod" (preswylfa'r haf); yn yr hydref, byddai'r teulu a'r anifeiliaid yn dod lawr i lawr y dyffryn - i'r "hendref".[3]

Teulu'r Rolls golygu

Mae gwreiddyn holl gyfoeth y teulu hwn o dirfeddianwyr yn mynd yn ôl i briodas gŵr o'r enw James James, Mynwy o blwyf Llanfihangel Ystum Llywern, Sir Fynwy a ymgartrefodd yn Llundain ac a etifeddodd ystâd enfawr yn Southwark, Surrey.[4]

Prynnodd nifer ffermydd a thiroedd yn Llanfihangel Ystum Llywern a Llangatwg Feibion Afel rhwng 1639 a 1648. Yn ei ewyllus a gyhoeddwyd yn 1677 gadawodd bopeth i'w unig blentyn sef merch o'r enw Sarah a'i gŵr Dr Elisha Coysh.[4] Cawsant ferch a briododd William Allen a prynnodd y ddau ychwaneg o diroedd yn Sir Fynwy.[4] Cawsant ferch na wyddom mo'i henw hithau ac a briododd ei chefnder cyntaf Thomas Coysh.[4] Aeth y cyfan i'w merch Sarah (m. 1801): holl etifeddiaeth teuluoedd Coysh, Allen a James. Priododd hithau John Rolls (1735–1801) a oedd yn enedigol o "the Grange", Bermondsey ac a ddaeth yn Siryf Sir Fynwy ym 1794.

Llinach James James, Mynwy a theulu'r "Rolls" golygu

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
James James, Mynwy
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Sarah
 
Dr. Elisha Coysh
o Lundain
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
?Anhysbys?
 
William Allen
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
?Anhysbys?
 
Thomas Coysh
(cefnder)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
John Rolls
(1735–1801)
o Bermondsey
 
Sarah
(m. 1801)
 
Richard Coysh
(dim plant)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
John Rolls
o'r Hendre
(1776–1837)
 
Martha Maria Barnet
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
John Etherington Welch Rolls
(1807–70)
 
Elizabeth Mary Long
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
John Allan Rolls
(1837–1912)
(A.S. dros Sir Fynwy)
 
Georgiana Marcia Maclean
(1837 – 1923)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
John Maclean Rolls
(1870–1916)
 
Henry Alan Rolls
(1871–1916)
 
Eleanor Georgiana Rolls
(1872–1961)
 
Charles Stewart Rolls
(1877–1910)
(perchennog Rolls Royce)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Listed Buildings Online; Adalwyd 10 Ebrill 2012.
  2. Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tudalen.14
  3. "Life on the Land". The National Library of Wales. Cyrchwyd 31 Mawrth 2012.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "Gwent Record Office, Documents relating to the Rolls family, barons Llangattock, of The Hendre". Archives Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-23. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2010.