Ardal o ucheldir yng nghanolbarth yr Unol Daleithiau sydd â nodweddion daearegol a diwylliannol unigryw yw Yr Ozarks (Saesneg: The Ozarks; hefyd Ozarks Mountain Country, Ozark Mountains neu Ozark Plateau). Mae'r ucheldir hwn yn cynnwys rhan fawr o dde Missouri a rhan sylweddol o ogledd a chanolbarth Arkansas. Mae'r ardal yn ymestyn hefyd i gyfeiriad y gorllewin i ogledd-ddwyrain Oklahoma a rhan o dde-ddwyrain Kansas.

Yr Ozarks
Mathcadwyn o fynyddoedd, llwyfandir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolU.S. Interior Highlands Edit this on Wikidata
SirMissouri, Arkansas, Oklahoma, Kansas Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd122,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,561 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.1822°N 92.5159°W Edit this on Wikidata
Hyd350 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig igneaidd Edit this on Wikidata
Map o'r Ozarks
Golygfa ar Fynyddoedd St Francois o Fynydd Knob Lick

Er bod pobl yn cyfeirio at yr ardal weithiau fel "Mynyddoedd Ozark" neu "Fynyddoedd yr Ozarks", llwyfandir uchel gyda nifer o gymoedd yn torri trwyddo ydyw yn hytrach na mynyddoedd fel y cyfryw. Canolbwynt daearegol yr Ozarks yw Mynyddoedd Saint Francois. Mae'r ardal yn cynnwys tua 47,000 milltir sgwar (122,000 km2), sy'n ei gwneud yr ardal fynyddig fwyaf sylweddol rhwng yr Appalachians i'r dwyrain a mynyddoedd y Rockies i'r gorllewin.

Defnyddir y gair Ozark i gyfeirio at y bobl sy'n byw yno a'u diwylliant, pensaernïaeth, a thafodiaith unigryw. Mae'r diwylliant Ozark traddodiadol yn gymysgfa o sawl diwylliant ac yn debyg i'r hyn a geir yn Appalachia, ucheldiroedd y De, a rhan o'r Midwest. Roedd yr ymsefydlwyr cynnar ym Missouri yn dod o'r Unol Daleithiau (taleithiau arfordir y dwyrain), a chawsant eu dilyn yn y 1840au a'r 1850au gan fewnfudwyr o'r Almaen ac Iwerddon. Yn ogystal, mae rhai teuluoedd o dras gymysg gan fod Gwyddelod ac Almaenwyr wedi priodi brodorion Americanaidd, nifer ohonynt yn bobl Cherokee. Mae'n gymdeithas sefydlog gyda llawer o'r teuluoedd wedi byw yn yr un ardal ers y 19g. Dyma un o ardaloedd cryfaf yr hen ganu gwlad yn yr Unol Daleithiau.


Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.