Yr argyfwng Bwdhaidd

Cyfnod o densiwn gwleidyddol a chrefyddol yn Ne Fietnam o fis Mai 1963 hyd Dachwedd 1963 oedd yr argyfwng Bwdhaidd a welodd gormes gan y llywodraeth genedlaethol, dan yr Arlywydd Ngô Đình Diệm, ac ymgyrch o wrthsafiad sifil gan fynachod Bwdhaidd. Digwyddodd yn ystod cyfnod cynnar Rhyfel Fietnam, tra yr oedd llywodraeth De Fietnam hefyd yn brwydro'n erbyn gwrthryfel y Vietcong.

Yr argyfwng Bwdhaidd
Enghraifft o'r canlynolreligious controversy, argyfwng gwleidyddol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Mai 1963 Edit this on Wikidata
Daeth i ben2 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
LleoliadDe Fietnam Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHuế Phật Đản shootings, Huế chemical attacks, Cwffio 7 Gorffennaf 1963, Xá Lợi Pagoda raids, Cable 243, Krulak Mendenhall mission, McNamara Taylor mission, Coup d'état De Fietnam, arrest and assassination of Ngo Dinh Diem Edit this on Wikidata

Llinell amser golygu

  • 8 Mai: Protest gan Fwdhyddion yn Huế yn erbyn gwaharddiad ar y faner Fwdhaidd. Bu farw wyth person wedi i'r heddlu a'r fyddin saethu ar y dorf.
  • 30 Mai: Gwrthdystiad gan 500 o fynachod Bwdhaidd y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yn Saigon.
  • 3 Mehefin: Anfonwyd 67 o brotestwyr i'r ysbyty wedi i heddlu a milwyr dywallt cemegion dros eu pennau tra yr oeddent yn gweddïo yn Huế.
  • 11 Mehefin: Hunanlosgodd Thích Quảng Ðức yn Saigon mewn protest.
  • 7 Gorffennaf: Ffrae rhwng heddlu cudd Ngô Ðình Nhu, brawd yr arlywydd, a charfan o newyddiadurwyr Americanaidd.
  • 18 Awst: Protest gan 15,000 o bobl ger Pagoda Xa Loi.
  • 21 Awst: Daeth rheolaeth filwrol i rym ar orchmynion Diệm. Cyrchoedd ar bagodâu Bwdhaidd ar draws De Fietnam. Arestiwyd dros 1400 o Fwdhyddion, a lladdwyd cannoedd.
  • 24 Awst: Danfonwyd "Cebl 243" at Henry Cabot Lodge, Jr., llysgennad yr Unol Daleithiau i Dde Fietnam, o weinyddiaeth yr Arlywydd Kennedy gan gynghori Lodge i gefnogi ddymchwel y teulu Nhu.
  • 1–2 Tachwedd: Coup d'état gan Fyddin Gweriniaeth Fietnam yn erbyn Diệm.