Ysgarthu ydy'r weithred o gael gwared o wastraff metabolig (neu ymgarthiad) a deunydd eraill di-angen o'r corff. Mae'n rhan hanfodol ac yn un o brosesau bywyd a ganfyddir gan bob anifail - a phob math o fywyd arall. Mae'n cynnwys hilif gwastraff y celloedd.

Mewn celloedd ungell, caiff y gwastraff ei ysgarthu yn uniongyrchol drwy wyneb y gell. Ond mae bodau amlgellog yn defnyddio systemau llawer iawn mwy cymhleth. Mae uwch blanhigion yn ysgarthu nwyon gwastraff allan o'r stomata, neu chwarenau ar wyneb y dail.

Gwastraff dynol golygu

Mewn bodau dynol mae'r broses o ysgarthu yn cynnwys cael gwared o iwrein (neu biso ar lafar); mae hefyd yn cynnwys ysgarthu moleciwlau o garbon deuocsid sy'n cael ei greu yn yr arennau a thrwy anadlu. Mae'r solidau gwastraff yn teithio drwy'r coluddion mawr. Rhaid cofio fod y broses o chwysu hefyd yn fath o ysgarthu.

Gweler hefyd golygu