Ysgol uwchradd gyfun yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Brynhyfryd, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 1898 o dan yr enw Ruthin County School for Girls, gyda bechgyn yr ardal yn teithio i Ddinbych i dderbyn eu haddysg. Datganiad o fwriad yr ysgol yw: "Cyd-weithio er mwyn rhagori". Mr Geraint Parry yw pennaeth presennol yr ysgol.

Ysgol Brynhyfryd
Arwyddair Cyd-weithio er mwyn rhagori
Sefydlwyd 1898
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Geraint Parry
Lleoliad Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru
Disgyblion 1224 (2008)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11+
Yr ysgol ar y chwith a Moelydd Clwyd (gan gynnwys Moel Famau) yn gefndir

Hanes yr ysgol golygu

Yn 1938, cafodd ei hailenwi yn Brynhyfryd School, fe dderbyniodd yr ysgol fechgyn a merched a daeth plant i'r ysgol o dalgylch ehangach: hyd at chwe milltir i ffwrdd. Adnabyddwyd yr ysgol o dan ei henw Cymraeg ers yr 1970au. Roedd cryn waith adeiladu yn yr ysgol yn yr 1950au a'r 1970au cynnar. Cynyddodd nifer y disgyblion o 700 i 1000 o fewn blwyddyn yn ystod yr 1970au, pan godwyd yr oedran gadael ysgol o 15 i 16. Arwyddair yr ysgol yw Nid dysg heb foes.

Roedd Brynhyfryd yn un o arloeswyr Bagloriaeth Cymru ar ddechrau'r 2000au.

Arolygiadau golygu

 
Disyblion yr ysgol yng Nghwm Idwal

Arolygiad 2000 golygu

Dywed adroddiad ESTYN 2000, fod tua 1230 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2000, a 240 ohonynt yn y chweched ddosbarth. Daeth 40% o'r dref a 60% o'r ardal wledig. Daeth 35% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref, ac 1% o gartrefi lle nad oedd y Gymraeg na'r Saesneg yn brif iaith gartref. Gallai 40% siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf. Daw tua 1% o’r disgyblion o gefndiroedd ethnig lliw ac yn siarad ieithoedd ar wahân i'r Saesneg neu’r Gymraeg gartref. Yn ôl yr adroddiad, roedd safon yr addysg yn dda.[2]

Arolygiad 2008 golygu

Cafwyd arolygiad arall yn Rhagfyr 2008. Roedd 1224 o ddisgyblion ar y gofrestr bryd hynny, a dywedodd yr adroddiad y daw tua 74% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg yn brif iaith, a 25% o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Mae 33% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1]

Cyfleusterau golygu

Mae hefyd rhwydwaith o gyfleusterau celf a Theatr John Ambrose, a gafodd ei enwi ar ôl cyn-brifathro o'r 1980au a'r 1990 au. Agorwyd y theatr gan yr actor Rhys Ifans, a fagwyd yn Rhuthun, er na fu'n ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd.

Yn 2003, adeiladwyd 20 dosbarth newydd yn yr ysgol i gymryd lle hen ystafelloedd symudol a ffreutur newydd sbon yn 2008. Gwariwyd 1.6 milliwn o bunnoedd ar yr ysgol i'w gwella. Mae adeilad y chweched ddosbarth yn adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw.[3] Mae cyfleusterau chwaraeon yr ysgol yn cynnwys pwll nofio, ac yn cael eu defnyddio fel canolfan hamdden y dref hefyd.

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol golygu

Ysgolion Swyddogol Gymraeg golygu

Ysgolion Naturiol Gymraeg golygu

Ysgolion Dwyieithog golygu

Ysgolion Saesneg golygu

Cyn-athrawon o nôd golygu

Bu'r hanesydd Frank Price Jones yn athro yn yr ysgol ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Bu awdures 'Lleian Llan Llŷr' sef Rhiannon Davies Jones hefyd ar staff yr ysgol, yn yr adran Gymraeg.

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Adroddiad Ysgol Brynhyfryd. Estyn (2008).
  2.  Adroddiad Ysgol Brynhyfryd. Estyn (18 – 22 Tachwedd 2002).
  3.  Ceisiadau Am Ganiatad Datblygu. Pwyllgor Cynllunio (4 Hydref 2006).

Dolenni allanol golygu