Ysgol Gyfun Tre-Gib

Ysgol uwchradd yn Ffairfach ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin oedd Ysgol Gyfun Tre-Gib. Roedd yn ysgol gymunedol ddwyieithog naturiol.

Ysgol Gyfun Tre-Gib
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Lleoliad Ffairfach, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, Cymru
Disgyblion 989 (2009)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan tregib.amdro.org.uk

Roedd 900 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 1997, a 130 yn y chweched ddosbarth.[2] Cynyddodd hyn i 932 yn 2003, a 142 yn y chweched ddosbarth. Erbyn 2009 roedd 989 o ddisgyblion, gyda 161 yn y chweched dosbarth.[1]

Dywedodd adroddiad Estyn 2003 y daeth tua 12% o'r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith, a siaradai 45% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[2] Roedd presenoldeb y Gymraeg wedi ei chryfau erbyn 2009, pryd tybier y daw 15% o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siaradai 55% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1]

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Arolygiad: 30 Mawrth 2009. ESTYN (5 Mehefin 2009).
  2. 2.0 2.1  Arolygiad: 10-14 Chwefror 2003. ESTYN (23 Ebrill 2003).

Dolenni allanol golygu