Ysgol Gymunedol Cwmtawe

Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yw Ysgol Gymunedol Cwmtawe, sy'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed yn ardal Pontardawe. Mae 70 o athrawon a tua 1200 disgybl yn yr ysgol.

Symudodd yr ysgol i adeiladau newydd ym 1996, a defnyddir ei hen adeiladau gan Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe. Enillodd Cwmtawe wobr ysgolion-eco ar gyfer ysgolion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, sy'n seiliedig ar welliannau i'r amgylchedd, dolenni'r gymuned a'r cwricwlwm yn ogystal ag arbed arian a chodi ymwybyddiaeth.[1]

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 a TGAU Cwmtawe yn rhagori'r targedau a osodir ar gyfer Cymru.[2] Roedd yr ysgol yn 113fed safle yng Nghymru ar gyfer pasiadau TGAU (yn seiliedig ar 5 TGAU, gradd A-C). Ers hynny mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol yn ôl adroddiad Estyn, mae'r raddfa pasiadau TGAU yn 73%, gan ei roi'n gyfartal 17fed yng Nghymru (ac o fewn y 10% o'r holl ysgolion).

Ysgolion Cynradd yn Nhalgylch yr Ysgol golygu

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.