Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yw Ysgol Rhiwabon, a leolir ar gampws ym mhentref Rhiwabon ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam; Clawdd Offa ydy ffin yr ysgol. Addysgir disgyblion rhwng 11 a 18 oed.

Ysgol Rhiwabon
Arwyddair Absque Labore Nihil
Ystyr yr arwyddair Dim byd, heb ymdrech
Sefydlwyd 1575
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Angela Williams[1]
Lleoliad Pont Adam, Rhiwabon, Wrecsam, Cymru, LL14 6BT
AALl Wrecsam
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan http://www.ysgolrhiwabon.co.uk
Mynedfa'r ysgol a agorwyd gan Mark Hughes.
Y Cyngor Ysgol yn cyfarfod yn y Llyfrgell.
Disgyblion yr ysgol yn canŵio, 2008.

Mae ganddi chweched dosbarth ac mae'r ysgol yn cynnig y fagloriaeth newydd ers 2007. Ar gyfartaledd mae 98% o'i disgyblion yn llwyddo yn yr arholiadau Lefel A.[2] Yn ôl adroddiad Estyn o'r ysgol yn 2003, "Mae Ysgol Rhiwabon yn darparu cyfleoedd da i'w myfyrwyr, a hynny yn academig, yn bersonol ac yn gymdeithasol."

Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol ym 1575, a lleolwyd yn un o adeiladau allanol yr eglwys. Ffurfiwyd yr ysgol ar ei ffurf bresennol ym 1967 drwy gyfuniad Ysgol Ramadeg Bechgyn Rhiwabon ac Ysgol Ramadeg Merched Rhiwabon. Mae'r ysgol erbyn hyn wedi ei leoli yn hen adeiladau ysgol y merched. Cawsant adeiladau ysgol y bechgyn i'w ail-ddatblygu, gan gadw'r hen strwythurau, i greu cartrefi newydd, disgybl o'r ysgol a ddewisodd yr enw newydd ar gyfer y cartrefi hyn.

Bu cryn adeiladu ar safle'r ysgol yn 2003, gyda llyfrgell gelf a chanolfan chwaraeon newydd yn cael eu hadeiladu. Agorwyd yr adeiladau'n swyddogol gan y cyn-ddisgybl Mark Hughes.

Prifathrawes bresennol yr ysgol yw Mrs Angela Williams.

Absque Labore Nihil (Lladin: "Dim Byd Heb Waith") yw arwyddair swyddogol yr ysgol; yr arwyddair answyddogol yw: "Yr hawl i ddysgu, bod yn ddiogel a chael ein parchu".[3]

Gwobrau golygu

Mae'r ysgol wedi ennill nifer o wobrau'n ddiweddar, gan gynnwys:

  • Gwobr y Dinesydd Ifanc (Y Rotari)
  • Gwobr gan Gymdeithas Yr Ysgolion Uwchradd am fugeilio (neu edrych ar ôl) ei disgyblion
  • Gwobr ETC 2006
  • Buddsoddwyr Mewn Pobol, 2008

Cyn-ddisgyblion o nod golygu

  • Mark Hughes
  • Cynghorydd Aled R. Roberts (Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam, 2009)[4]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ysgol Rhiwabon School Prospectus 2009 - 2010. Ysgol Rhiwabon.
  2. "Ystadegau Estyn ar wefan swyddogol yr ysgol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2009-10-07.
  3.  Ysgol Rhiwabon School Prospectus 2008 - 2009. Ysgol Rhiwabon.
  4.  Cynghorwyr Ponciau. Cyngor Sir Wrecsam.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.