Ysgol Uwchradd Llanrhymni


Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni, Caerdydd oedd Ysgol Uwchradd Llanrhymni (Saesneg: Llanrumney High School).

Ysgol Uwchradd Llanrhymni
Llanrumney High School
Adeiladau Ysgol Uwchradd Llanrhymni
Arwyddair Educating for life[1]
Sefydlwyd 1950au
Caewyd 2013
Math Uwchradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Lleoliad Ball Road, Llanrhymni, Caerdydd, Cymru, CF3 4YW
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 647 (2006)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Gwefan http://www.llanrumney.cardiff.sch.uk

Bu'n gwasanaethu ardaloedd Llanrhymni, Pentwyn a Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd. Fe'i hagorwyd yn yr 1950au ynghyd ag Ysgol Uwchradd Tredelerch. Roedd yn ysgol gymysg ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 16 oed. Roedd 647 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2006, i gymharu â 774 yn 2000. Deuai 4% ohonynt o gefndir lleiafrif ethnig.[1]

Arwyddair yr ysgol oedd 'Educating for life'.[1]

Cau golygu

Cyhoeddwyd cynnig stadudol i gau ysgolion uwchradd Llanrhymni a Tredelerch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 20 Mawrth 2009. Cofnodwyd 1258 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.[2] Roedd y rhesymau dros gau yn cynnwys y ffaith fod adeiladau'r ddwy ysgol yn hen ac mewn cyflwr gwael.

Caewyd yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf yn 2013. Trosglwyddwyd y disgyblion i Ysgol Uwchradd Tredelerch. Caeodd hithau yn haf 2014 pan agorwyd Ysgol Uwchradd y Dwyrain.[3]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.