Ysgrech y coed

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Ysgrech y Coed)
Ysgrech y Coed
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Garrulus
Rhywogaeth: G. glandarius
Enw deuenwol
Garrulus glandarius
(Linnaeus, 1758)
Garrulus glandarius

Mae Ysgrech y coed neu Sgrech y coed (Garrulus glandarius) yn aelod o deulu'r brain. Mae'n nythu trwy ran helaeth o Ewrop, Asia a gogledd-orllewin Affrica.

Gellir adnabod yr aderyn yn hawdd, er fod amryw o is-rywogaethau sy'n amrywio cryn dipyn. Mae'r corff yn liw pinc gyda plu glas tarawiadol iawn ar yr adain, ac mae darn gwyn mawr uwchben y gynffon sy'n amlwg iawn pan mae'r aderyn yn hedfan. Mae'r alwad yn nodweddiadol hefyd, ysgrech sy'n rhoi ei enw i'r aderyn. Gall hefyd ddynwared adar eraill.

Ceir Ysgrech y Coed mewn coedwigoedd neu lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwydo mewn coed ac ar lawr, ac mae mês yn rhan bwysig o'i fwyd. Gall hefyd fwyta pryfed, aeron, wyau a chywion adar eraill, malwod, llygod ac amrywiaeth o bethau eraill. Mae'n nythu mewn coeden ac yn dodwy 4-6 wy.

Mae Ysgrech y Coed yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

Ymfudo ac allfudo golygu

Enghreifftiau:

  • Yn 2012 bu mewnlifiad y sgrechod coed i Loegr ac efallai i Gymru. Ar y cyfandir bu niferoedd mawr iawn yn symud dros yr hydref yn Sgandinafia (yn ogystal â thitwod ac adar eraill).[1] Mae ‘graddfa adrodd’ (reporting rate) y BTO yn cynyddu yr amser hon o’r flwyddyn wrth i’r adar wneud teithiau bychan i fforio am fês a’u cuddio ond roedd graddfa adrodd 2012 yn 39%, y mwyaf erioed[2], ond ni welwyd yr effaith hon mor glir yng Nghymru[3] Credir mai gwael oedd y cnwd mês y flwyddyn honno.
  • Fe gofir Hydref 1983 fel mis y ‘sgrechod. Erbyn 2 Hydref bu’n glir bod adar â chefnau mwy llwydaidd na rhai Prydain yn cyrraedd Prydain ac ar y 17eg derbynwyd adroddiad am 1000 o ’sgrechod yn Lands End, Cernyw. Dau ddiwrnod wedyn gwelwyd 3000 yn hedfan i’r gorllewin mewn minteion o 300 dros Dinas Plymouth.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhys Jones: cofnod yn Nhywyddiadur Llên Natur
  2. Bird track y BTO
  3. Kelvin Jones, Swyddog BTO Yng Nghymru
  4. BTO News 129