Ysgyfaint

organ anadlu mewn anifail
(Ailgyfeiriad o Ysgyfant)

Prif organau system resbiradu'r corff yw'r ysgyfaint (neu ar lafar: sgyfaint), sy'n galluogi pobl ac anifeiliaid eraill i anadlu. O fewn mamaliaid a fertebratau eraill, lleolir dwy ran yr ysgyfaint ger yr asgwrn cefn - o boptu'r galon. Eu pwrpas yw tynnu (neu 'echdynnu') ocsigen o'r atmosffer a'i basio ymlaen i lif y gwaed yn y corff. AR yr un pryd caiff y carbon deuocsid ei ryddhau yn ôl i'r atmosffer; gellir disgrifio hyn fel proses o gyfnewid nwyon. Caiff y symudiadau sy'n galluogi i'r anadlu hyn ddigwydd ei reoli gan gyhyrau. Mewn llawer o anifeiliaid y prif gyhyr yw y llengig. yr ysgyfaint hefyd sy'n galluogi anifeiliaid i wneud synnau gwahanol e.e. siarad, udo, mewian a brefu.

Mae gan fodau dynol ddwy ysgyfaint: y chwith a'r dde. yn Gymraeg defnyddir y gair ysgyfant weithiau am un rhan. Maent wedi eu lleoli yg ngwactod y thoracs yn y fron. Mae'r ysgyfaint dde yn fwy na'r chwith, gan fod yr ysgyfaint chwith yn rhannu lle gyda'r galon. Gyda'i gilydd mae'r ddwy ysgyfaint yn pwyso 1.3 kg. Maen nhw'n ffurfio rhan isaf y pibellau anadlu sy'n cychwyn yn y trachea ac yn canghenu i'r bronci a'r bronciolau (neu fronciolynnau) ac sy'n derbyn aer i fewn. Mae'r 'canghennau' hyn yn parhau i rannu a lleihau nes bod yr aer yn cyrraedd alfeoli meicrosgopig, ble mae'r broses o gyfnewid nwyon yn digwydd. Gyda'i gilydd mae'r ysgyfaint yn cynnwys 2,400 cilometr (1,500 mi) o bibelli a 300 - 500 o alfeoli.

O amgylch yr ysgyfaint ceir sach eisbilennol sy'n caniatáu i'r waliau mewnol a'r waliau allanol i lithro yn erbyn ei gilydd wrth i'r anifail anadlu heb fawr o ffrithiant. Mae'r sach yma nid yn unig yn cwmpasu'r ddwy ran ond hefyd yn rhannu pob ysgyfaint yn llabedau (lobes). Ceir 3 llabed yn y sgyfaint dde a dwy yn y sgyfaint chwith. Rhennir y llabedau hyn yn segmentau a llabedynnau (lobules). Daw cyflenwad unigryw o waed i'r ysgyfaint.

Gweler hefyd golygu


Bioleg | Anatomeg | System resbiradu

Trwyn | Ffaryncs | Corn gwddf | Pibell wynt | Ysgyfaint

  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am ysgyfaint
yn Wiciadur.