Yuri Gagarin

gofodwr Sofietaidd, y dyn cyntaf yn y gofod

Gofodwr Sofietaidd oedd Yuri Alekseyevich Gagarin (Rwseg: Юрий Алексеевич Гагарин) (9 Mawrth 1934 ger Smolensk - 27 Mawrth 1968); ef oedd y gofodwr cyntaf i deithio i'r gofod a hynny yn 1961. Roedd yn Arwr yr Undeb Sofietaidd.

Yuri Gagarin
GanwydЮрий Алексеевич Гагарин Edit this on Wikidata
9 Mawrth 1934 Edit this on Wikidata
Klushino Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1968 Edit this on Wikidata
Novosyolovo Edit this on Wikidata
Man preswylYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • College named Yuri Gagarin (Saratov)
  • Orenburg Military Aviation Piloting High School
  • Academi Peirianneg yr Awyrlu, Zhukovsky Edit this on Wikidata
Galwedigaethhedfanwr, gofodwr, swyddog milwrol, gwleidydd, fforiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Taldra1.65 metr, 1.57 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
TadAleksey Gagarin Edit this on Wikidata
MamAnna Timofeevna Gagarina Edit this on Wikidata
PriodValentina Ivanovna Gagarina Edit this on Wikidata
PlantYelena Gagarina, Galina Yuryevna Gagarina Edit this on Wikidata
Gwobr/auArwr yr Undeb Sofietaidd, Urdd Lenin, Pilot-Cosmonaut" Yr Undeb Sofietaidd, Hero of Socialist Labour of Czechoslovakia, Arwr Llafur Sosialaidd, Urdd Georgi Dimitrov, Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Urdd Baner Gweriniaeth Hwngari, Urdd Karl Marx, Order of the Nile, Urdd Klement Gottwald, Hero of Labor, Seren Gweriniaeth Indonesia, Urdd Playa Girón, Urdd Seren Affrica, Order of Aeronautical Merit, Urdd Croes y De, Order of the Cross of Grunwald, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal "For the Development of Virgin Lands, Jubilee Medal "40 Years of the Armed Forces of the USSR", Medal Jiwbilî "50 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, Supreme Soviet of the Soviet Union, Q16654323, International Space Hall of Fame Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganed Yuri Gagarin ger dinas Smolensk yn yr Undeb Sofietaidd ar 9 Mawrth 1934. Ar ôl gorffen ei addysg ysgol yn 1949, aeth Gagarin i sawl ysgol dechnegol cyn cofrestru i hyfforddi fel peilot yn Ysgol Uwch yr Awyrlu Orenburg yn 1955.

Fe'i hyfforddwyd fel cosmonaut (gofodwr). Lansiwyd y capsiwl gofod, Vostok 1, gyda Gagarin ar ei fwrdd ar 12 Ebrill 1961.[1] Treuliodd Gagarin tua 90 munud yn y gofod, digon i fynd rownd y Ddaear unwaith, cyn glanio yn yr Undeb Sofietaidd. Gwelwyd yr hediad fel buddugoliaeth bropaganda anferth yn ystod y Rhyfel Oer.

Yn 1963 cafodd Gagarin ei benodi'n Is Gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddi Cosmonawtiaid yr Undeb Sofietaidd. Yn 1966 bu'n aelod criw wrth gefn Soyuz 1 ac ar 17 Chwefror 1968 gorffennodd ei gwrs gradd yn y gwyddorau technolegol.

Cafodd ei ladd ar 27 Mawrth 1968 mewn damwain awyren tra'n peilotio awyren MIG-15.

Diwylliant poblogaidd golygu

Ceir cyfeiriadau at Yuri Gagarin yng nghân y Sibrydion, 'Diasbedain'.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cofio tad-cu wnaeth helpu Yuri Gagarin i'r gofod". BBC Cymru. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2022.