Ángel Rama

actor a aned yn 1926

Bardd, dramodydd, a nofelydd Wrwgwaiaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Ángel Rama (30 Ebrill 192627 Tachwedd 1983) sy'n nodedig fel un o brif ddeallusion a beirniaid diwylliannol America Ladin yn yr 20g.

Ángel Rama
GanwydÁngel Antonio Rama Facal Edit this on Wikidata
30 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1983 Edit this on Wikidata
Mejorada del Campo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, academydd, beirniad llenyddol, Rhufeinydd, actor Edit this on Wikidata
PriodIda Vitale Edit this on Wikidata
PlantClaudio Rama Vitale Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata

Ganed ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, i fewnfudwyr o Sbaen. Astudiodd y dyniaethau yn Mhrifysgol y Weriniaeth ac yn 1945 dechreuodd weithio i Agence France-Presse. Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol yn ysgrifennu cerddi, dramâu, a nofelau, a fe'i cydnabyddir yn aelod blaenllaw o La Generación del 45. Sefydlodd Rama a Carlos Maggi y cwmni cyhoeddi Fábula yn 1950, a chyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf dan enw'r wasg honno. Priododd â'r bardd Ida Vitale yn 1950. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr y gyfres o lyfrau Biblioteca Artigas o 1951 i 1958, ac yn y swydd honno golygydd 28 cyfrol yn y casgliad Clásicos Uruguayos. Rheolodd y cyfnodolyn Entregas de la Licorne o 1953 i 1956, a chyfrannodd yn aml at y papur newydd El País a'r cylchgrawn dylanwadol Marcha nes i unbennaeth Wrwgwái ei derfynu yn 1974.[1]

Yn 1962, sefydlodd Ángel Rama a'i frawd Germán y cwmni cyhoeddi Arca. Gweithiodd yn Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái o 1949 i 1965, ac addysgodd mewn ysgol uwchradd, yn yr Instituto de Profesores Artigas, ac ym Mhrifysgol y Weriniaeth o 1966 i 1974. Roedd yn aelod o fwrdd golygyddol Casa de las Américas (Ciwba) o 1964 i 1971, pryd ymddiswyddodd mewn ymateb i erledigaeth wleidyddol y bardd Heberto Padilla. Yn sgil ei ysgariad oddi ar Vitale, priododd Rama â'r beirniad celf Marta Traba yn 1969 a symudasant i ynys Puerto Rico. Aethant i Caracas, Feneswela, yn 1974 ac yno sefydlodd y fenter gyhoeddi Biblioteca Ayacucho.[1] Bu'n olygydd cyffredinol ar lyfrau Biblioteca Ayacucho, yn olygydd y cylchgrawn llenyddol Escritura, ac yn academydd ym Mhrifysgol Ganolog Feneswela.

Symudodd yn ddiweddarach i Unol Daleithiau America a fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Maryland yn 1981.[1] Bu'n rhaid iddo adael yr Unol Daleithiau wedi i'r Adran Wladol amau ei fod yn gomiwnydd.[2] Treuliodd diwedd ei oes yn Ewrop, a bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 57 oed, yn yr un drychineb a laddodd ei wraig Marta a'r llenorion Jorge Ibargüengoitia o Fecsico a Manuel Scorza o Beriw.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Rama, Angel (1926–1983)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2019.
  2. Magdalena García Pinto, "Rama, Angel" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 468.