Osaka

(Ailgyfeiriad o Ōsaka)

Mae Osaka yn ddinas fawr yng Ngorllewin Japan (poblogaeth tua 2.6 miliwn), prifddinas talaith Osaka. Mae Osaka'n ail i Tokyo yn unig o ran ei phwysigrwydd economaidd ac yn drydedd yn y wlad ar ôl y brifddinas a Yokohama yn nhermau ei phoblogaeth. Mae'n ddinas fodern iawn, brysur a gweithgar, heb atyniadau hanesyddol arbennig.

Osaka
Mathdinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, dinas â phorthladd, dinas Japan, metropolis, cyn-brifddinas, mega-ddinas, city for international conferences and tourism Edit this on Wikidata
PrifddinasKita-ku Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,751,862 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
AnthemOsaka City Anthem, Ōsaka shi no Uta Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIchirō Matsui Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSanto, six greatest cities in Japan (1922), three major cities in Japan, Keihanshin, Osaka metropolitan area Edit this on Wikidata
SirOsaka Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Arwynebedd223 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Higashi-Yokobori, Aji River, Osaka Bay Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSakai, Higashiōsaka, Matsubara, Yao, Daito, Kadoma, Moriguchi, Settsu, Suita, Toyonaka, Amagasaki Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.69375°N 135.50211°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Osaka Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Osaka Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Osaka Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIchirō Matsui Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

 
Adeilad Umeda Sky, Osaka

Roedd Osaka yn borthladd fasnachol bwysig mor belled yn ôl â'r 7g, ond ni ddatblygodd lawer tan y 16g. Dyna bryd dewisodd Toyotomi Hideyoshi, oedd newydd uno'r wlad, Osaka fel safle i gastell strategaidd. Ymsefydlodd marsiandïwyr o gwmpas y castell newydd a thyfodd y ddinas yn gyflym i ddod yn ganolfan fasnach bwysig.

Er i glan y Toyotomi gael eu gorchfygu gan glan y Tokugawa yn gynnar yn y 17g, mewn ymryson a welodd gastell Osaka yn cael eu llosgi'n ulw, ailadeiladwyd y castell gan y Tokugawa a pharhaodd y ddinas i ffynnu.

Ar 1 Medi 1956 daeth Osaka yn ddinas dynodedig.

Erbyn heddiw mae economi Osaka a'i rhanbarth yn fwy nag economi Awstralia ac mae rhai economegwyr wedi darogan y bydd Osaka ryw ddydd yn goddiweddu Tokyo fel deinamo economaidd y genedl.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Enwogion golygu

Gefeillddinasoedd a gefeillborthfeydd golygu

Gefeillddinasoedd:

Dinasoedd cyfeillgarwch a chydweithredu:

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato