Škoda Auto
Gwneuthurwr ceir o'r Weriniaeth Tsiec ydy Škoda Auto, a adnabyddir yn gyffredin fel Škoda. Daeth Škoda yn is-gwmni o'r Volkswagen AG ym 1991. Cyrhaeddodd cyfanswm eu gwerthiant 684,226 o geir yn 2009.
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | akciová společnost |
ISIN | CZ0005133611 |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 17 Rhagfyr 1895 |
Sefydlydd | Václav Laurin, Václav Klement |
Pencadlys | Mladá Boleslav |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | car |
Refeniw | 424,292,000,000 Czech koruna (2020) |
Incwm gweithredol | 17,316,000,000 Czech koruna (2020) |
Cyfanswm yr asedau | 227,983,000,000 Czech koruna (31 Rhagfyr 2020) |
Perchnogion | Volkswagen Finance Luxemburg (1.0), Volkswagen AG (100%), Volkswagen AG (70%) |
Nifer a gyflogir | 35,437 (2020) |
Rhiant-gwmni | Volkswagen AG |
Lle ffurfio | Plzeň |
Gwefan | https://www.skoda-auto.com/, https://www.skoda.com.tr/, https://www.skoda-avto.ru/, http://skoda-auto.kz/, http://www.skoda.com.cn, https://www.skoda-auto.cz, https://dealers.skoda-auto.co.in/ |
Hanes
golyguMae gwreiddiau Škoda yn mynd yn ôl i'r 1890au cynnar pan ddechreuodd y cwmni, yn debyg i nifer o wneuthurwyr ceir eraill ar y pryd, yn cynhyrchu beiciau. Ym 1894, roedd Václav Klement yn werthwr llyfrau 26-oed yn Mladá Boleslav, Gweriniaeth Tsiec heddiw, a oedd yn rhan o Awstria-Hwngari ar y pryd. Ni lwyddodd i gael gafael ar ddarnau er mwyn trwsio ei feic Almaenig, felly dychwelodd Klement y beic i'r gwneuthurwyr, Seidel and Naumann, gyda llythyr mewn Tsieceg yn gofyn iddynt ei drwsio. Derbyniodd ateb yn Almaeneg yn datgan os byddai eisiau ateb i'w ymholiad dylai gysylltu mewn iaith y gallent ddeallt. Roedd Klement wedi ei ffieiddio, ac er nad oedd ganddo'r brofiad dechnegol, penderfynodd ddechrau siop trwsio beiciau, a sefydlodd hwn gyda Václav Laurin ym 1895 yn Mladá Boleslav. Cyn dechrau'r bartneriaeth fusnes gyda Klement, roedd Laurin eisoes yn wneuthurwr beiciau sefydledig o dref Turnov gerllaw.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Skoda-Auto.com, gwefan corfforaethol
- Skoda y DU
- Skoda Awstralia