Math o de Tsieineaidd traddodiadol yw ŵlong (; wūlóng) (Camellia sinensis) a gynhyrchir trwy ddulliau unigryw gan gynnwys ei adael i grino yn yr haul i beri oscideiddio cyn mynd ati i'w gordeddu. Mae'r graddau y mae'r math hwn o de wedi ei ocsideiddio yn amrywio o 8% hyd at 85% yn ôl y dull penodol a ddefnyddiwyd i'w greu.

Dail ŵlong wedi eu rholio

Tardd ei enw o'r Tsieineeg 烏龍 (Pinyin: wūlóng), sy'n golygu 'draig ddu'.