(66391) 1999 KW4
Asteroid ddeuaidd sydd tua 1.3 cilometr mewn diamedr yw (66391) 1999 KW4, dynodiad dros dro 1999 KW4.[1] Mae wedi'i dynodi fel gwrthrych agos i'r Ddaear ac asteroid o'r grwp Aten a allai fod yn beryglus. Cafodd ei ddarganfod ar 20 Mai 1999 gan Lincoln Near-Earth Asteroid Research (LINEAR) yn Safle Prawf Arbrofol Labordy Lincoln yn Socorro, New Mexico, yr Unol Daleithiau.[2] Mae hefyd yn croesi cylchdro Mercher a hon yw'r system ddeuaidd hysbys agosaf at yr Haul gyda pherihelion o 0.2 Uned Astronomegol yn unig (5.4 pellter y lleuad).
Animeiddiad o system deuaidd 1999 KW4 | |
Math o gyfrwng | potentially hazardous asteroid, near-Earth object |
---|---|
Dyddiad darganfod | 20 Mai 1999 |
Rhagflaenwyd gan | (66390) 1999 KL3 |
Olynwyd gan | (66392) 1999 KF10 |
Echreiddiad orbital | 0.688, 0.68839309197708 ±1e-09 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cylchdro
golyguMae'r asteroid yn cylchdroi'r Haul ar bellter o 0.2–1.1 PA unwaith bob 6.18 mis (188 diwrnod). Mae gan ei gylchdro ecsentrigrwydd o 0.69 a thueddiad o 39° o ran yr ecliptig.[3] Cymerwyd rhagfynegiad cyntaf gan 2MASS yn Arsyllfa Whipple Fred Lawrence ym 1998, gan ymestyn arch arsylwi'r gwrthrych o flwyddyn cyn ei arsylwad darganfod swyddogol yn Socorro.[2]
Fel asteroid a allai fod yn beryglus, mae ganddo isafswm pellter cylchdro o 0.0138 Uned Astronomegol (2,060,000 cilometr) o'r Ddaear, sy'n cyfateb i 5.4 pellter y lleuad.[3] Ar 25 Mai 2036, bydd yn pasio 0.0155 Uned Astronomegol (2,320,000 cilometr) o'r Ddaear.[4]
Nodweddion ffisegol
golyguYn nosbarthiad SMASS, nodweddir yr asteroid fel math S:-, sef y math ehangach o asteroidau caregog math S-.[3]
Mae gan 1999 KW4 leuad planed-fechan sy'n ei chylchdroi. Mae'r lleuad, a ddynodwyd yn S/2001 (66391) 1 tua 360 metr mewn diamedr, ac yn cylchdroi bob 16 awr ar bellter cymedrig o 2.6 cilometr. Awgrymwyd presenoldeb cydymaith gan arsylwadau ffotometrig a wnaed gan Pravec a Šarounová ac chadarnhawyd hynny gan arsylwadau Arecibo, trwy ddefnyddio radar, a'u cyhoeddi ar 23 Mai 2001.[5][1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Johnston, Robert (20 Medi 2014). "(66391) 1999 KW4". Johnston's Archive. Adalwyd 30 Mawrth 2017.
- ↑ 2.0 2.1 "66391 (1999 KW4)". Minor Planet Center. Adalwyd 30 Mawrth 2017.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "JPL Small-Body Database Browser: 66391 (1999 KW4)" (2017-05-31 last obs.). Jet Propulsion Laboratory. Adalwyd 1 Mehefin 2017.
- ↑ "JPL Close-Approach Data: 66391 (1999 KW4)" (2013-05-09 last obs (arc=14.9 yr)). Adalwyd 6 Ebrill 2016.
- ↑ Pravec, P.; Scheirich, P.; Kusnirák, P.; Sarounová, L.; Mottola, S.; Hahn, G.; et al. (Mawrth 2006). "Photometric survey of binary near-Earth asteroids". Icarus. 181 (1): 63–93. Bibcode:2006Icar..181...63P. doi:10.1016/j.icarus.2005.10.014. Adalwyd 1 Mehefin 2017.