13 Reasons Why
Cyfres ddrama ar-lein yw 13 Reasons Why (ysgrifennir ar-sgrin fel Th1rteen R3asons Why) sy'n seiliedig ar y nofel a gyhoeddwyd yn 2007 gan Jay Asher ac addaswyd gan Brian Yorkey i Netflix[2]. Mae'r gyfres yn dilyn myfyrwr, Clay Jensen, a'i ffrind Hannah Baker, merch a laddodd ei hun ar ôl dioddef cyfres o amgylchiadau digalon a achoswyd gan rai unigolion yn ei hysgol. Ceir bocs o dapiau casét yn manylu'r 13 rheswm am ei hunanladdiad.
13 Reasons Why | |
---|---|
Genre |
|
Seiliwyd ar | Thirteen Reasons Why gan Jay Asher |
Datblygwyd gan | Brian Yorkey |
Yn serennu |
|
Adroddwyd gan | Katherine Langford |
Cyfansoddwr/wyr | Eskmo |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o dymhorau | 1 |
Nifer o benodau | 13 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol |
|
Cynhyrchydd/wyr |
|
Golygydd(ion) | Leo Trombetta |
Lleoliad(au) | Califfornia, U.D.A. |
Gosodiad camera | Camera sengl |
Hyd y rhaglen | 49–61 munud |
Cwmni cynhyrchu |
|
Dosbarthwr | |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | Netflix |
Fformat y llun | 4K ([Ultra HD)[1] |
Darlledwyd yn wreiddiol | 31 Mawrth 2017 | – presennol
Dolennau allanol | |
Gwefan |
Cynhwysa'r tymor cyntaf o 13 o benodau.[3][4] Cynhyrchwyd y gyfres gan July Moon Productions, Kicked to the Curb Productions, Anonymous Content a Paramount Television. Yn wreiddiol, roedd yn mynd i fod yn ffilm i'w darlledu gan Universal Pictures gyda Selena Gomez yn y prif rôl, ond mabwysiadwyd y cynhyrchiad gan Netflix yn 2015 gyda Gomez fel cynhyrchydd gweithredol. Rhyddhawyd y tymor cyntaf a'r bennod arbennig, 13 Reasons Why: Beyond the Reasons, ar Netflix ar yr 31 Mawrth 2017.
Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol o feirniaid a chynulleidfaoedd, sydd wedi canmol ei thestun a chymeriadau, yn enwedig y ddau actor arweiniol, Dylan Minnette a Katherine Langford. Mae hefyd wedi denu dadl o ganlyniad i'w phortread graffig o faterion sensitif sef hunanladdiad a thrais rhywiol, yn ogystal â chynnwys aeddfed arall. Ym mis Mai o 2017, cyhoeddwyd y bydd tymor arall yn cael ei ddarlledu yn 2018.[5]
Stori golygu
Mae Clay Jensen yn cyrraedd ei dŷ ac yn darganfod bocs dirgel tu fas iddo. O'i fewn, mae e'n darganfod saith casét dau-ochrog a recordwyd gan Hannah Baker, ei ffrind agos, a laddodd ei hun rhyw ddwy wythnos yn gynharach. Ar y tapiau, mae Hannah yn datgelu dyddiadur llafar torcalonnus ac yn manylu'r 13 rheswm a wthiodd iddi ddiweddu ei bywyd. Mae ei chyfarwyddiadau yn glir: un o'r rhesymau am ei hunanladdiad ydy pob person a dderbyna'r bocs. Ar ôl i bob person wrando ar y tapiau, mae'n rhaid iddynt basio'r pecyn ymlaen i'r derbynnydd nesaf. Pe bai rhywun beidio â dilyn y cyfarwyddiadau, wedyn caiff set gwahanol o dapiau ei rhyddau i'r cyhoedd. Cyfeirir pob tâp i berson penodol yn ei hysgol ac yn manylu eu cyfraniad at ei hunanladdiad yn y pen draw. [6]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "13 Reasons Why". instantwatcher.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ebrill 2017. Cyrchwyd 2 Ebrill 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "'Spotlight's Brian d'Arcy James Cast In Netflix Series '13 Reasons Why', Joins TNT Pilot 'Civil'". Deadline. June 15, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Andreeva, Nellie (26 Chwefror 2016). "Diana Son Joins Selena Gomez's Netflix Series '13 Reasons Why' As Showrunner". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2016. Cyrchwyd 16 Medi 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Andreeva, Nellie (June 8, 2016). "'13 Reasons Why' Netflix Series: Dylan Minnette & Katherine Langford Lead Cast". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 14, 2016. Cyrchwyd 16 Medi 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "'13 Reasons Why' Renewed for a Second Season at Netflix". Variety. 7 Mai 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mai 2017. Cyrchwyd 7 Mai 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Crynodeb o'r gyfres 13 Reasons Why". Shmoop. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-27. Cyrchwyd 22/09/17. Check date values in:
|access-date=
(help)