2022 yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd arbennig y flwyddyn 2022 i Gymru a'i phobl.
Deiliaid
golygu- Prif Weinidog Cymru - Mark Drakeford[1]
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Simon Hart (cyn 7 Gorffennaf)
- Syr Robert Buckland (7 Gorffennaf - 25 Hydref)[2]
- David TC Davies (o 25 Hydref ymlaen)[3]
- Tywysog Cymru
- Y Tywysog Siarl
- Y Tywysog Wiliam (o 9 Medi ymlaen)[4]
- Tywysoges Cymru
- yn wag
- Catherine, Tywysoges Cymru (o 9 Medi ymlaen)[4]
- Archesgob Cymru - Andrew John, Esgob Bangor[5]
- Archdderwydd - Myrddin ap Dafydd[6]
- Bardd Cenedlaethol Cymru - Ifor ap Glyn[7]
Digwyddiadau
golygu- 1 Ionawr - Roedd Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2022 yn cynnwys athletwyr Olympaidd Hannah Mills (OBE) a Lauren Price (MBE), athletwyr Paralympaidd David Smith (MBE) a James Roberts (MBE). Roedd hefyd yn cynnwys Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton (urdd marchog), a'r Athro Julie Lydon (urdd bonesig).[8]
- 14 Ionawr - Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai cyfyngiadau COVID-19 yn lleihau, yn dilyn cwymp yn nifer yr achosion.[9]
- 21 Ionawr - Mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd, ymosododd Mark Drakeford ar Brif Weinidog y DU, Boris Johnson am beidio â gweithredu'n addas yn erbyn COVID-19. Amlygodd Drakeford hefyd hanes gwleidyddol Johnson ac awgrymu bod llywodraeth Johnson yn ceisio ei amddiffyn.[10]
- 10 Chwefror - Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn derbyn taliad o £1,000 ym mis Ebrill.[11]
- 14 Chwefror - Galodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, ar Lywodraeth Cymru i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod.[12]
- 16 Chwefror - Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru daliadau o £1,600 y mis i bobl ifanc sy'n gadael gofal ar ôl iddynt cyrraedd 18 oed.[13]
- 23 Chwefror - Ceryddwyd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price a Chwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw gan Swyddfa Dramor y DU am ymweld ag Wcráin.[14]
- 27 Chwefror - Achubwyd pedwar o blant o Afon Rhondda[15]
- 12 Mawrth - Ar ddechrau cynhadledd Llafur Cymru, beirniadodd Mark Drakeford ymateb Llywodraeth y DU at oresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022. Daeth Syr Keir Starmer i'r cynhadledd, ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd Plaid Lafur y DU.[16]
- 30 Mawrth - Cyhoeddodd Jamie Wallis AS ei fod yn drawsryweddol. Bu iddo ffoi o ddamwain car ar ôl dioddef trais rhywiol ym mis Tachwedd 2021.[17]
- 4 Ebrill - Daeth Comisiynydd Safonau y Senedd Douglas Bain i'r casgliad nad oedd Aelodau o'r Senedd Paul Davies, Darren Millar, Nick Ramsay ac Alun Davies wedi torri'r gyfraith mewn ymchwiliad ar yfed alcohol ar ystâd y Senedd yn ystod cyfyngiadau COVID-19 ar werthu alcohol.[18]
- 28 Ebrill - Cafodd Jamie Wallis ei gyhuddo gan Heddlu De Cymru o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd, methu â rhoi gwybod i’r awdurdodau am y gwrthdrawiad, gyrru heb dalu sylw, a gadael cerbyd mewn safle peryglus.[19]
- 5 Mai - Cynhaliwyd Etholiadau lleol Cymru 2022 gyda ffiniau newydd. Roedd modd i awdurdodau lleol ddewis rhwng y system pleidlais sengl drosglwyddadwy a'r system cyntaf i’r felin.[20] Enillodd Llafur Cymru yn reolaeth dros wyth o gynghorau, enillodd Plaid Cymru bedwar; collodd y Ceidwadwyr Cymreig un cyngor a chollodd Annibynwyr ddau.[21]
- 2 Mehefin - Roedd Rhestr Anrhydeddau’r Pen-blwydd Brenhines Loegr 2022 yn cynnwys yr actor Jonathan Pryce (urdd marchog) a'r Aelod Seneddol dros Lanelli Nia Griffith (urdd bonesig). Fe wnaeth Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes, y gantores Bonnie Tyler, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru Gwyneth Lewis, pêl-droediwr a chapten Cymru Gareth Bale dderbyn MBE, ac fe wnaeth y dyn tywydd Derek Brockway dderbyn Medal yr Ymerodraeth.[22]
- 4 Mehefin - Daeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Dinbych 2022 i ben, gyda record o 118,000 yn dod i'r digwyddiad.[23]
- 22 Mehefin - Cafodd Eluned Morgan ei cheryddu'n swyddogol gan Senedd Cymru ar ôl cael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis.[24]
- 11 Gorffennaf - Cafodd Jamie Wallis ddirwy o £2,500 a chael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis.[25]
- 18 Gorffennaf - Ailddechreuodd Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.[26]
- 8 Awst - Ymddangosodd cyn-chwaraewr pêl-droed a rheolwr Cymru Ryan Giggs gerbron Llys y Goron Crown Square ym Manceinion ar gyhuddiad o ymosod ar ei gyn-gariad.[27]
- 19 Awst - Gwres mawr yng Nghymru. Cyhoeddwyd sychdwr yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.[28]
- 31 Awst - Roedd tân sylweddol ger Pier y Mwmbwls.[29]
- 8 Medi - Bu farw Elisabeth II, Brenhines Y Deyrnas Unedig. Daeth Siarl III frenin.[30]
- 9 Medi - Cyhoeddodd Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig bod y Tywysog Wiliam yn ei olynu fel Tywysog Cymru[4], er gwaethaf deiseb yn galw am ddileu'r teitl[31].
- 16 Medi - Daeth Siarl III i Gymru ar ei daith swyddogol cyntaf fel brenin.[32]
- 27 Medi - Ymwelodd y Tywysog Wiliam a Catherine, Tywysoges Cymru ag Ynys Môn ar eu taith swyddogol cyntaf i Gymru ers marwolaeth y Frenhines.[33]
- 26 Hydref - Penodi David TC Davies yn Ysgrifennydd Cymru dan arweiniad Prif Weinidog Rishi Sunak, a phenodi Simon Hart yn Brif Chwip.[3]
Celfyddydau a llenyddiaeth
golyguEisteddfod Genedlaethol Cymru
golygu- Y Gadair - Llŷr Gwyn Lewis[34]
- Y Goron - Esyllt Maelor[35]
- Y Fedal Ryddiaith - Sioned Erin Hughes[36]
- Y Fedal Ddrama - Gruffydd Siôn Ywain[37]
Gwobrau
golygu- Llyfr y Flwyddyn 2022:
- Cymraeg: Ffion Dafis, Mori[38]
- Saesneg: Nadifa Mohamed, The Fortune Men[39]
Llyfrau newydd
golyguCymraeg
golygu- Hywel Gwynfryn, Atgofion drwy Ganeuon: Anfonaf Eiriau[40]
Saesneg
golygu- Martin Shipton, Mr Jones – The Man Who Knew Too Much – The Life and Death of Gareth Jones[41]
Cerddoriaeth
golyguAlbymau
golyguFfilm
golygu- Save the Cinema, cyfarwyddwyd gan Sara Sugarman, sêr y ffilm yn cynnwys Jonathan Pryce ac Wynne Evans[43]
Darlledu
golyguSaesneg
golygu- Slammed (cyfres dogfen)[44]
- TV Flashback (cyfres newydd gyda Kiri Pritchard-McLean)[45]
Radio Cymraeg
golygu- 3 Awst - Mae'r BBC yn cyhoeddi y bydd oriau darlledu BBC Radio Cymru 2 yn codi o 15 awr yr wythnos i 60 awr yr wythnos.[46]
Teledu Cymraeg
golygu- Bois 58[47]
- Cewri Cwpan y Byd[47]
- Gogglebocs Cymru[48]
- Y Golau/The Light in the Hall, gyda Joanna Scanlan, Alexandra Roach ac Iwan Rheon. [49]
Chwaraeon
golygu- 7 Ionawr - Mae Chester F.C. yn cyhoeddi bod y clwb yn cael ei ymchwilio am achos posib o dorri cyfyngiadau COVID-19 Cymru, ar ôl derbyn gwylwyr yn Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022. [50]
- 6 Mehefin - Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cymwys i'r Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, wrth ennill 1-0 yn erbyn Wcráin yng Nghaerdydd.[51]
- 13 Awst - Mae'r triathletwraig Non Stanford yn ennill medal arian dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, cyn ennill Pencampwriaeth Triathlon Ewrop a chyhoeddi ei hymddeoliad.[52]
- 11 Hydref - Collodd tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru eu gêm ail-gyfle Cwpan y Byd 2023, wrth golli 2-1 yn erbyn y Swistir[53]
- 5 Rhagfyr - Ail-benodi Warren Gatland yn Brif Hyfforddwr tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, wrth ddiswyddo Wayne Pivac ar ôl arolygiad o berfformiad y tîm yng Nghyfres yr Hydref 2022.[54]
Marwolaethau
golygu- 8 Ionawr – Keith Todd, pêl-droediwr, 80[55]
- 10 Ionawr – Burke Shelley, canwr roc a cherddor, 71[56]
- 12 Ionawr – Taffy Thomas, joci, 76[57]
- 21 Ionawr – Howard Radford, pêl-droediwr, 91[58]
- 25 Ionawr – Wyn Calvin, digrifwr, 96[59]
- 14 Chwefror – Aled Roberts, gwleidydd a Chomisiynydd y Gymraeg, 59[60]
- 4 Mawrth
- Ruth Bidgood, bardd, 99[61]
- Iwan Edwards, arweinydd corawl Cymreig-Canadaidd, 84[62]
- Dai Jones Llanilar, cyflwynydd teledu a radio, canwr, 78[63]
- Colin Lewis, seiclwr, 79[64]
- Mair Garnon, athrawes ac awdures
- 17 Mawrth – Alan Rees, chwaraewr rygbi a chriced, 84[65]
- 1 Ebrill - Richard Cyril Hughes, hanesydd a nofelydd
- 15 Ebrill – Peter Swales, hanesydd, 73[66]
- 10 Mai – Glyn Shaw, chwaraewr rygbi, 71[67]
- 18 Mai – Brian Bedford, pêl-droediwr, 88[68]
- 26 Mai - Dyfrig Evans, actor a chanwr gyda'r band Topper
- 8 Mehefin – David Lloyd-Jones, arweinydd cerddorol a ganwyd yn Lloegr, 87[69]
- 12 Mehefin – Phil Bennett, chwaraewr rygbi, 73[70]
- 12 Mehefin - Cen Llwyd, gweinidog, bardd ac ymgyrchydd.
- 13 Gorffennaf – Chris Stuart, newyddiadurwr, cyflwynydd radio a theledu, cynhyrchydd, 73[71]
- 17 Gorffennaf – Billy Davies, cricedwr, 86[72]
- 5 Awst – Aled Owen, pêl-droediwr, 88[73]
- 24 Awst – Ken Jones, chwaraewr rygbi, 81[74]
- 27 Awst – Tony Nelson, pêl-droediwr, 92[75]
- 29 Awst – Mick Bates, gwleidydd a ganwyd yn Lloegr, 74[76]
- 8 Medi – Mavis Nicholson, ysgrifennwraig a darlledwr, 91[77]
- 15 Medi - Eddie Butler, chwaraewr a sylwebydd rygbi, 65[78]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rt Hon Mark Drakeford MS". gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-06. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Robert Buckland fydd yn olynu Simon Hart". Golwg360. 7 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "David TC Davies yw Ysgrifennydd Cymru". Golwg360. 25 Hydref 2022. Cyrchwyd 26 Hydref 2022.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Brenin Charles: Cadarnhau William yn Dywysog Cymru". BBC Cymru Fyw (yn Saesneg). 9 Medi 2022. Cyrchwyd 19 Medi 2022.
- ↑ "New Archbishop of Wales elected" (yn Saesneg). Yr Eglwys yng Nghymru. 6 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 19 Medi 2022.
- ↑ "Gorymdaith ac Archdderwydd newydd i gyhoeddi prifwyl 2020". Golwg360. 29 Mehefin 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Penodi Bardd Cenedlaethol newydd i Gymru". Golwg360. 1 Mawrth 2016. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Welsh Secretary celebrates New Year Honours recipients". gov.uk (yn Saesneg). 31 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 19 Medi 2022.
- ↑ Evans, Felicity (14 Ionawr 2022). "Covid in Wales: Restrictions to ease after Omicron peak". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Medi 2022.
- ↑ Morris, Steven (21 Ionawr 2022). "Boris Johnson's history is catching up with him, says Welsh first minister". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Baker, Lisa (Chwefror 2022). "Real living wage a good first step, 'but still a lot more' to do for carers in Wales, says GMB union". News from Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Dickins, Sarah (14 Chwefror 2022). "Four-day working week pilot bid for Welsh workers". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Breese, Evie (16 Chwefror 2022). "Welsh care leavers to receive £1,600 a month in basic income pilot". The Big Issue (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Mosalski, Ruth (23 Chwefror 2022). "Foreign Office reprimand Welsh politicians Adam Price and Mick Antoniw over trip to Ukraine". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Owen, Cathy (28 Chwefror 2022). "The moment four children are rescued from fast-flowing river by helicopter". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Mark Drakeford at Welsh Labour's 2022 conference: "There is another way"". Labourlist (yn Saesneg). 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "AS 'eisiau bod yn drawsryweddol ac wedi cael fy nhreisio'". BBC Cymru Fyw. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Deans, David (20 Medi 2022). "Senedd booze ban politicians cleared". BBC News (yn Saesneg).
- ↑ "Cyhuddo'r Aelod Seneddol Ceidwadol Jamie Wallis o bedair trosedd yrru". Golwg360. 28 Ebrill 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Local Government and Elections (Wales) Act 2021". legislation.gov.uk. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Bebb, Huw (6 Mai 2022). "Etholiadau Lleol: Sut ddiwrnod oedd hi i'r gwahanol bleidiau yng Nghymru?". Golwg360. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Anrhydeddau i Gwyneth Lewis, Gareth Bale, Bonnie Tyler, Brynmor Williams a mwy". Golwg360. 2 Mehefin 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Gregory, Rhys (6 Mehefin 2022). "Wales > Record numbers at 2022 Urdd National Eisteddfod WALES Record numbers at 2022 Urdd National Eisteddfod". Wales247 (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Eluned Morgan yn cael cerydd swyddogol gan Senedd Cymru". Golwg360. 22 Mehefin 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Jamie Wallis: MP found guilty of driving offences". BBC News (yn Saesneg). 11 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Sioe Frenhinol Cymru". Royal Welsh Show. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-04. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Ryan Giggs yn y llys". Golwg360. 8 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Drought declared in parts of Wales after water levels plummet". The Guardian (yn Saesneg). 19 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Owen, Cathy (31 Awst 2022). "Smoke billowed across Swansea as emergency services dealt with a large fire at Mumbles Pier". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Queen Elizabeth II has died". BBC News. 8 Medi 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Cannoedd yn arwyddo deiseb yn galw am ddod â theitl 'Tywysog Cymru' i ben". Golwg360. 2022-09-09. Cyrchwyd 2022-09-30.
- ↑ "King Charles III: First visit to Wales as the King announced". BBC News (yn Saesneg). 10 Medi 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Virginia Crosbie 'wrth ei bodd' yn croesawu William a Kate i Ynys Môn". Golwg360. 28 Medi 2022. Cyrchwyd 28 Medi 2022.
- ↑ "Llŷr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion". BBC Cymru Fyw. 5 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Poet wins the National Eisteddfod Crown two years after submitting entry at the start of lockdown". Nation.Cymru (yn Saesneg). 1 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Sioned Erin Hughes yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Ceredigion". Eisteddfod. 3 Awst 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-20. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Gruffydd Siôn Ywain yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod Ceredigion". Eisteddfod. 4 Awst 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-20. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "'Mori' gan Ffion Dafis yw Llyfr y Flwyddyn 2022". Golwg360. 21 Gorffennaf 2022.
- ↑ "English-language Wales Book of the Year 2022 Winners". Literature Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Hywel Gwynfryn yn 80 oed – dathlu drwy gyhoeddi llyfr am ei "gyfraniad anferth" i ganu pop Cymraeg". Golwg360. 11 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Mr Jones - The Man Who Knew Too Much". Ashley Drake Publishing Ltd. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Power, Ed (29 Ionawr 2022). "Cate Le Bon was stranded in Wales so she made a lockdown album". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Hollywood's Jurassic Park premiere in Carmarthen set for movie". BBC News (yn Saesneg). 3 Chwefror 2021. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Booth, Thomas (8 Ionawr 2022). "'Slammed' BBC Wales rugby documentary review & rating". Last Word on Sports (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Kiri Pritchard-McLean announced as new presenter of TV Flashback". BBC Media Centre (yn Saesneg). 10 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "BBC announces its intention to extend Radio Cymru 2 to broadcast 60 hours a week". BBC Media Centre (yn Saesneg). 3 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ 47.0 47.1 Max Miller (28 Hydref 2022). "S4C unveils packed World Cup slate". Broadcast Now Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022.
- ↑ "Gogglebocs Cymru cast from Llanrwst, Bangor and Caernarfon". North Wales Pioneer (yn Saesneg). 8 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2022.
- ↑ "'Welsh language TV is quite special' says star Joanna Scanlon as gripping new S4C drama is launched". Nation.Cymru (yn Saesneg). 15 Mai 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Haigh, Elizabeth (7 Ionawr 2022). "Covid probe after 2,000 fans went to Chester FC games… at stadium that's actually in Wales". LBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Cymru'n mynd i Gwpan y Byd!". Golwg360. Mehefin 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Kate Milsom (20 Medi 2022). "Non Stanford wins Munich European Championships and announces retirement". Triathlon (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Torcalon i ferched Cymru". Golwg360. 12 Hydref 2022. Cyrchwyd 26 Hydref 2022.
- ↑ "Warren Gatland yn dychwelyd i fod yn brif hyfforddwr rygbi Cymru". Golwg360. 5 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2022.
- ↑ Harries, Owen (11 Ionawr 2022). "Swansea Legend Keith Todd passes away aged 80". Herald Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Moore, Sam (11 Ionawr 2022). "Burke Shelley death: Budgie founder dies aged 71". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Milnes, David (13 Ionawr 2022). "Popular leading lightweight jockey Taffy Thomas dies aged 76". Racing Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "In Memory Of". Bristol Rovers (yn Saesneg). 23 Ionawr 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "One of Wales' greatest entertainers Wyn Calvin has died". Nation.Cymru (yn Saesneg). 25 Ionawr 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed". Golwg360. 14 Chwefror 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Ruth Bidgood Obituary". Seren Books (yn Saesneg). 8 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Dunlevy, T'Cha (6 Mawrth 2022). "Obituary: Montreal choir conductor Iwan Edwards's 'passion was limitless'". Montreal Gazette (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "'Y byd darlledu a chefn gwlad yn dlotach heb Dai Jones, Llanilar'". Golwg360. 4 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Henderson, Guy (4 Mawrth 2022). "Tour de France and Olympic rider Colin Lewis dies aged 79: Tributes pour in for champion Devon cyclist". Devon Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Alan Rees - a tribute". Glamorgan Cricket News (yn Saesneg). 18 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Genzlinger, Neil (21 Ebrill 2022). "Peter Swales, Who Startled Freud Scholarship, Dies at 73". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Turner, Matt (10 Mai 2022). "Wales dual-code rugby international Glyn Shaw dies aged 71". Warrington Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Brian Bedford (1933-2022) RIP". Queens Park Rangers FC (yn Saesneg). 18 Mai 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "David Lloyd-Jones, co-founder of Leeds-based Opera North – obituary". Telegraph (yn Saesneg). 13 Mehefin 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Phil Bennett: Legendary Wales and British and Irish Lions fly-half dies aged 73". BBC Sport (yn Saesneg). 12 Mehefin 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Denman, Amy; Morris, Aaron (13 Gorffennaf 2022). "Durham-born BBC Radio 2 DJ Chris Stuart dies aged 73 - leading to tributes from colleagues". Chronicle Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Billy Davies - a tribute". Glamorgan Cricket News (yn Saesneg). 18 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Former Winger Owen Dies". TWTD.com (yn Saesneg). 6 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Ken Jones: Former Wales and British and Irish Lions centre dies aged 81". BBC Sport (yn Saesneg). 25 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Obituary: Tony Nelson". AFC Bournemouth (yn Saesneg). 27 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Teyrngedau i Mick Bates, y cyn-Aelod Cynulliad, sydd wedi marw'n 74 oed". Golwg360. 30 Awst 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ Brown, Maggie (11 Medi 2022). "Mavis Nicholson obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Eddie Butler: Former Wales rugby captain and legendary broadcaster dies aged 65". BBC Sport (yn Saesneg). 15 Medi 2022. Cyrchwyd 20 Medi 2022.