Teulu o ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol yw ALGOL. (Mae'r enw'n tarddu o ALGOrithmic Language.) Datblygwyd ALGOL yn wreiddiol yn 1958.[1] Er nad yw'r iaith wreiddiol honno'n cael ei defnyddio mwyach, cafodd ddylanwad mawr ar lawer o ieithoedd eraill a ddatblygwyd wedyn. Mewn gwirionedd mae cystrawen y mwyafrif o ieithoedd rhaglennu modern yn debyg i gystrawen ALGOL i ryw raddau.

ALGOL
Enghraifft o'r canlynoliaith raglennu, procedural programming language, imperative programming language, structured programming language Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1958 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd tair prif fanyleb, a enwyd ar ôl y blynyddoedd y cawsant eu cyhoeddi gyntaf:

  • ALGOL 58
  • ALGOL 60
  • ALGOL 68

Cyfeiriadau

golygu
  1. "History of ALGOL — Software Preservation Group". www.softwarepreservation.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mawrth 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.