A Book of North Wales

Mae A Book of North Wales,[1] yn deithlyfr i ymwelwyr i ogledd Cymru a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi Methuen & Co, Llundain ym 1903. Awdur y gyfrol oedd y clerigwr a'r hynafiaethydd Sabine Baring-Gould (1834 – 1924).[2] Mae'r llyfr yn gydymaith i'w llyfr tebyg am y deheubarth A Book of South Wales a gyhoeddwyd ym 1905.

Cyflwyniad golygu

Yn ei rhagarweiniad i'r llyfr mae Baring-Gould yn egluro nad yw wedi'i fwriadu fel Canllaw, ond dim ond fel cyflwyniad i ogledd Cymru, at ddefnydd ymwelwyr arfaethedig, fel y gallent wybod rhywbeth o hanes y tir hyfryd hwnnw y maent ar fin ei weld. Rhywbeth dieithr i'r mwyafrif o Saeson yw hanes Cymru; yn unol â hynny, rwyf wedi ceisio ei symleiddio'n ddigonol i'r ymwelydd ddeall ei amlinelliadau. Heb wybodaeth o hanes gwlad lle mae un yn teithio, collir mwy na hanner ei ddiddordeb.

Yn ogystal â phenodau yn disgrifio ac yn trafod gwahanol agweddau o hanes gogledd Cymru, mae'r llyfr, hefyd, yn cynnwys 47 o ffotograffau a darluniau o'r rhanbarth

Cynnwys golygu

Mae'r llyfr yn agor gyda phennod am bobl Cymru, gan gychwyn trwy adrodd, yr hyn sy'n cael ei gydnabod yn ffug hanes, bellach, ond a gredwyd am ganrifoedd, bod y Cymry yn hil Hamatig [3] (disgynyddion Ham mab Noa) a bod elfennau o'r iaith Gymraeg yn perthyn yn agos i'r Hebraeg. Mae'r ddwy bennod gyntaf yn rhoi cyflwyniad, wedyn, i hanes Cymru hyd at oresgyniad y wlad gan y Saeson ym 1282. Mae gweddill y llyfr wedi ei rannu i benodau am drefi neu ardaloedd penodol megis Sir Fôn, Bangor a Chaernarfon, Llangollen ac ati. Mae'r penodau am lefydd yn cynnwys disgrifiadau twristaidd am yr ardaloedd dan sylw ond hefyd yn eu defnyddio fel bachyn ar gyfer cyflwyno rhagor am hanes cyffredinol Cymru / gogledd Cymru. Mae pennod am Lanelwy yn cynnwys trafodaeth am ganu gwerin Cymru, mae pennod am Ddolgellau yn cynnwys gwybodaeth am Anghydffurfiaeth a phregethwyr anghydffurfiol Cymru ac ati.

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Penodau golygu

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. The Welsh People
  2. The English Conquest
  3. Anglesey
  4. Holyhead
  5. Bangor and Carnarvon
  6. Snowdon
  7. Lleyn
  8. Conway
  9. S. Asaph
  10. Denbigh
  11. Llangollen
  12. Dolgelley
  13. Harlech
  14. Welshpool
  15. Newtown
  16. Machynlleth

Cyfeiriadau golygu

  1. Baring-Gould, Sabine (1903). A Book of North Wales. Llundain: Methuen & co.
  2. "Gould, Sabine Baring- (1834–1924), Church of England clergyman, author, and folksong collector | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-12-10.
  3. "Hamitic Races And Languages - Encyclopedia". theodora.com. Cyrchwyd 2019-12-11.
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-11.