Abaty Aberconwy

(Ailgyfeiriad o Abaty Maenan)

Abaty Sistersaidd oedd Abaty Aberconwy, a safai yn wreiddiol ar safle sydd yn nhref Conwy heddiw, ac a symudwyd yn ddiweddarach i safle ym Maenan ger Llanrwst, Dyffryn Conwy. Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg Abaty Aberconwy oedd yr abaty pwysicaf yng ngogledd Cymru.

Abaty Aberconwy
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1186 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2807°N 3.8289°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Normanaidd Edit this on Wikidata

Yr abaty cyntaf golygu

Sefydlwyd abaty Sistersaidd yn Rhedynog Felin ym mhlwyf Llanwnda, ger Caernarfon, ar 24 Gorffennaf 1186, gan fintai o fynachod o Abaty Ystrad Fflur. Bedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, symudasant i Aberconwy, ac ym 1199 rhoddwyd tiroedd helaeth i'r abaty gan dywysog newydd Gwynedd, Llywelyn Fawr. Ystyrid Llywelyn yn sylfaenydd yr abaty, a chyda'i gefnogaeth ef daeth i feddiannu mwy o diroedd nag unrhyw abaty arall yng Nghymru, dros 40,000 acer (160 km²). Bu farw Llywelyn yn yr abaty ym 1240 a chladdwyd ef yno. Claddwyd ei fab Dafydd ap Llywelyn yma hefyd ym 1246.

 
Eglwys Conwy, safle'r abaty canoloesol.
 
Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol.
 
Carreg gyda arysgrif Ladin yn diolch am rodd i Abaty Aberconwy gan Lywelyn Fawr. Darganfuwyd ym Mhentrefoelas.

Ger Pentrefoelas yn rhan uchaf sir Conwy, darganfuwyd carreg gydag arysgrif Lladin arni sy'n diolch am rodd gan Lywelyn Fawr i Abaty Aberconwy. Ar y garreg - a gedwir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru - ceir y geiriau Lladin Cymreig hyn:

Ed vidh LN DI env aLevone Fortitudine Brachii mesure Leveline princeps Northvallie
"Daw'r enw 'Llewelin' o 'llew' ac o nerth 'elin', O Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru!"

Roedd mab arall Llywelyn, Gruffudd ap Llywelyn, wedi syrthio i'w farwolaeth wrth geisio dianc o Dŵr Llundain ym 1244 ac wedi ei gladdu yno, ond ym 1248 trefnodd abad Aberconwy ac abad Ystrad Fflur i'w gorff gael ei ddychwelyd i Gymru a'i gladdu yn abaty Aberconwy gyda'i dad a'i frawd. Dioddefodd yr abaty ddifrod sylweddol yng nghyfnod Harri III o Loegr ym 1245 pan ymosododd ei filwyr ar Wynedd.

Cymerodd abad Aberconwy ran bwysig yn y trafodaethau rhwng Llywelyn ap Gruffudd a'r goron Seisnig yn ddiweddarach yn y ganrif, ac ym 1262 ef oedd unig gynrychiolydd Llywelyn yn y trafodaethau.

Mae'n debygol bod rhai o greiriau pennaf Gwynedd a'i thywysogion yn cael eu cadw yn yr abaty er diogelwch, yn cynnwys Y Groes Naid.

Abaty Maenan golygu

 
Y gwesty ar safle Abaty Maenan.

Wedi lladd Llywelyn ym 1282, gorfododd Edward I y mynachod i symud i safle newydd ym Maenan, er mwyn iddo ef fedru adeiladu castell a thref yng Nghonwy. Roedd yr abaty newydd wedi ei gwblhau erbyn 1284, gyda Edward yn talu'r gost. Yn y bymthegfed ganrif cofnodir bod abad Aberconwy, Siôn ap Rhys, wedi ffraeo ag abaty Ystrad Fflur ac wedi peri i rai o'i fynachod a milwyr i ysbeilio Ystrad Fflur. Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, Dafydd ab Owain oedd yr abad yno, cyn iddo gael ei benodi'n esgob Llanelwy. Cadwai lys agored a chanodd y bardd Tudur Aled iddo yn ei abaty ar fwy nag un achlysur. Ym 1535 amcangyfrifwyd bod gwerth eiddo'r abaty yn £162, ac fel y mynachlogydd eraill rhoddwyd diwedd ar abaty Aberconwy ym 1537 (gweler Diddymu'r mynachlogydd).

Ychydig sy'n weddill o adeiladau'r fynachlog ym Maenan, ond cafodd eglwys yr abaty yn Aberconwy ei throi'n eglwys y plwyf i dref Conwy. Mae wedi ei hail-adeiladu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae rhai darnau o hen eglwys yr abaty yn parhau. Credir bod adeiladau eraill yr abaty i'r gogledd ac i'r dwyrain o'r eglwys.

Yn ôl traddodiad, claddwyd y brudiwr Adda Fras (fl. ?1240 - 1320?) ar dir yr abaty newydd ym Maenan.

Llyfryddiaeth golygu

  • R. N. Cooper (1992) Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies) ISBN 0-7154-0712-0
  • Syr Henry Ellis (gol.), Register and chronicle of the Abbey of Aberconway (Llundain, 1847). Cronicl a chofrestr yr abaty, testun canoloesol yn y Llyfrgell Brydeinig.
  • Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, Capel Curig, 1984). Tud. 34-61

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu