Abdylas Maldybayev
Cyfansoddwr a chanwr Cirgisaidd oedd Abdylas Maldybayev (7 Gorffennaf 1906 – 1 Mehefin 1978) a oedd yn ffigur poblogaidd ym myd opera yr Undeb Sofietaidd.
Abdylas Maldybayev | |
---|---|
Abdylas Maldybayev ar bapur arian 1 som. | |
Ganwyd | 24 Mehefin 1906 (yn y Calendr Iwliaidd) Kara-Bulak |
Bu farw | 1 Mehefin 1978 Bishkek |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, cyfansoddwr, actor, gwleidydd |
Swydd | aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd |
Arddull | opera |
Math o lais | tenor |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Gwobr/au | Urdd Lenin, Urdd y Chwyldro Hydref, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Artist y Bobl (CCCP), Urdd Baner Coch y Llafur, Medal "Am Waith Rhagorol", Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945" |
Ganed ym mhentref Kara Bulak yn rhanbarth Chui, yng ngogledd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia. Dechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth yn 16 oed, a chafodd lwyddiannau yn y 1920au gyda'i ganeuon"Akynai" a "Life". Yn y 1930au fe gyflwynodd arddulliau a ffurfiau cerddorol newydd i Girgisia, megis emynau ac ymdeithganeuon. Gwobrwywyd iddo deitlau anrhydeddus Arlunydd y Bobl GSS Cirgisia yn 1937 ac Artist y Bobl UGSS yn 1939. Gweithiodd yn gadeirydd Undeb Cyfansoddwyr Cirgisia o 1939 i 1967 ac yn gyfarwyddwr coleg cerdd yn Bishkek o 1953 i 1954. Yn ogystal â'i ganeuon fe gyfansoddai sawl gwaith offerynnol, gan gynnwys symffoni. Bu farw yn 71 oed. Enwir theatr yn Bishkek ar ei ôl.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 180–81.