Abida Parveen
Cantores o Bacistan yw Begum Abida Parveen (Wrdw: عابدہ پروین). Hi yw un o gantorion amlycaf a mwyaf blaenllaw ym myd cerddoriaeth Swffi. Kafi a ghazal yw ei chryfderau, ond mae hi hefyd wedi canu qawwali (maes dynion yn unig oedd hynny'n draddodiadol). Fe'i hadnabyddir am ei llais anhygoel a'i dychymyg cerddorol byw. Mae ei phoblogrwydd yn chwedlonol yn ei thalaith enedigol Sindh, a thu hwnt.
Abida Parveen | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1954 Larkana |
Dinasyddiaeth | Pacistan |
Galwedigaeth | sufi singer, artist recordio |
Arddull | Sufi music |
Gwobr/au | Gwobr Balchder Perfformio, Hilal-i-Imtiaz, Sitara-i-Imtiaz |