Abnoba yw'r enw Lladin am y Fforest Ddu (yn ne-orllewin yr Almaen heddiw; ceir enghreifftiau o'r enw yng ngwaith Pliny'r Hynaf ac yn Germania yr hanesydd Rufeinig Tacitus) ac yn enw ar dduwies Geltaidd a gysylltir â'r ardal ac a uniaethid â'r dduwies glasurol Diana.

Arysgrif Badenweiler

Yn amser y Rhufeiniaid addolid duwies o'r enw Abnoba ar gyrion y Fforest Ddu. Mae tarddiad yr enw yn anhysbys. Darganfuwyd arysgrifau ar feini iddi yn yr ardal, e.e. Pforzheim ac yn Stuttgart-Bad Cannstatt. Y pwysicaf yw'r maen arysgrifiedig o Badenweiler sy'n cyplysu enwau Abnoba a Diana (gweler y llun).

Mae cerflun ar dywodfaen arysgrifiedig o Karlsruhe-Mühlberg, sydd bellach yn amgueddfa Badisches Landesmuseum yn Karlsruhe, yn dangos Abnoba yn sefyll ar ei thraed ac yn gwisgo chiton fer. Mae ganddi gi yn ei ymyl sydd newydd ddal ysgyfarnog.

Ffynhonnell golygu

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Woodbridge, 1997)