Sefydlwyd yr ysgol athroniaeth a elwir yr Academi {Groeg: Ἀκαδημία) gan Platon tua 385 CC. Daw'r enw o'r lleoliad, Akademia, cysegr i'r dduwies Athena, i'r gogledd o ddinas Athen. Cyn sefydlu'r ysgol, roedd yno brllan santaidd o olewydd, wedi eu cysegru i Athena.

Academi (Platon)

Olynwyd Platon fel pennaeth (scholarch) yr Academi gan Speusippus (347-339 CC), Xenocrates (339-314 CC), Polemon (314-269 CC), Crates (ca. 269-266 CC), ac Arcesilaus (ca. 266-240 CC). Penaethiaid eraill oedd Lacydes o Cyrene, Carneades, Clitomachus a Philo o Larissa. Roedd aelodau enwog eraill yn cynnwys Aristoteles, Heraclides Ponticus, Eudoxus o Cnidus, Philip o Opus, Crantor ac Antiochus o Ascalon.

Yn ddiweddarach sefydlwyd Academi ddiweddarch yma, yr Academi Neo-Blatonaidd, a barhaodd hyd 529 OC, pan gaewyd hi gan yr ymerawdwr Bysantaidd Justinian I.