Hawlydd y gall y llysoedd ddod ar draws problemau yn ei gylch wrth bennu a oedd ar y diffynnydd dyletswydd gofal iddo ai peidio yw achubwr. Fel arfer mae llysoedd yn edrych yn ffafriol ar achubwyr amatur, gyda'r farn arferol yn ennill fel arfer, sef ei bod hi'n rhesymol rhagweld, lle bynnag y bydd diffynnydd yn creu ffynhonnell perygl, y bydd rhywun yn gweithredu er lles y gymuned ac yn ceisio achub y rhai a beryglwyd gan ymddygiad esgeulus y diffynnydd.

Achubwr
Mathrhwymedigaeth Edit this on Wikidata

Gall achubwyr proffesiynol hefyd ddod â hawliadau am golled neu niwed yn erbyn y diffynnydd, ond bydd y llysoedd yn ystyried hyfforddiant a phrofiad arbennig yr hawlydd wrth bennu a fyddai'n "deg, yn gyfiawn ac yn rhesymol" gosod atebolrwydd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.