Addie Waites Hunton

Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Addie Waites Hunton (11 Mehefin 1866 - 22 Mehefin 1943) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hawliau cyfartal merched ac Affro-Americanwyr. Roedd hefyd yn addysgwraig ac yn awdur.

Addie Waites Hunton
Ganwyd11 Mehefin 1866 Edit this on Wikidata
Norfolk Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Ysgol Latin Boston Edit this on Wikidata
Galwedigaethcofiannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
PriodWilliam Alphaeus Hunton Edit this on Wikidata
PlantEunice Carter, Alphaeus Hunton Edit this on Wikidata

Yn 1889, Hunton oedd y fenyw ddu gyntaf i raddio o'r Spencerian College of Trade. Bu'n gweithio i'r Gymdeithas Gristnogol Menywod Ifanc (YWCA), gwasanaethodd fel trefnydd cenedlaethol Cymdeithas Genedlaethol y Menywod Lliw (the National Association of Colored Women; NACW) rhwng 1906 a 1910, a bu'n gwasanaethu yn y Fyddin U.S yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd llawer o'i gwaith yn ymwneud ag etholfraint, sef yr hawl i fenywod gael pleidleisio mewn etholiad.[1][2][3][4][5][6]

Magwraeth

golygu

Ganwyd Addie D. Waites yn Norfolk, Virginia ar Fehefin 11, 1866 i Jesse ac Adeline Waites.[7] Bu farw ei mam pan oedd Addie yn ifanc iawn, a symudodd Addie i Boston i gael ei magu gan ei modryb, o ochr ei mam.[8] Yn Boston, aeth Hunton i Ysgol Ladin, Boston lle graddiodd gyda diploma ysgol uwchradd. Yna, aeth i Goleg Masnach Spencerian a hi oedd y fenyw ddu gyntaf i raddio yn 1889.

Ar ôl graddio, symudodd Hunton i Normal, Alabama, i addysgu yn y State Normal and Agricultural College, a elwir bellach yn Brifysgol Amaethyddol a Mecanyddol Alabama.

Yn Efrog Newydd, penodwyd Hunton gan Fwrdd Cenedlaethol yr YWCA ym 1907 yn ysgrifennydd. Roedd yn gyfrifol am drefnu prosiectau ymhlith myfyrwyr croenddu. Yn ogystal, teithiodd drwy'r De a'r Canolbarth i gynnal arolwg ar gyfer YWCA. Mae Hunton yn adnabyddus am ei hymdrechion lles cymdeithasol ymhlith y gymuned ddu. At hynny, recriwtiodd nifer o fenywod du eraill i weithio i'r YWCA, menywod fel Eva del Vakia Bowles ac Elizabeth Ross Haynes.[6]

O 1909 i 1910, symudodd Hunton gyda'i phlant i Ewrop. Roedd ei gŵr yn dioddef o broblemau iechyd ac arhosodd gartref yn yr UD. Tra yn Ewrop, bu'r teulu'n byw yn y Swistir ac yna symudodd i Strasbourg, yr Almaen, lle bu'n astudio yn rhan-amser ym Mhrifysgol Kaiser.[5]

Pan symudodd Hunton a'i phlant yn ôl i America, parhaodd i weithio gyda'r YWCA a dechreuodd ddilyn cyrsiau yng Ngholeg Dinas Efrog Newydd. Ar yr adeg hon, roedd ei gŵr William mewn cyflwr difrifol gyda'r diciâu. Yna symudodd teulu Hunton i Saranac Lake, Efrog Newydd, lle buont tan ei farwolaeth yn 1916.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Alpha Kappa Alpha am rai blynyddoedd. [9]

Anrhydeddau

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. Goodier & Pastorello 2017, t. 126.
  2. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
  3. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 3 Awst 2024.
  4. Grwp ethnig: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
  5. 5.0 5.1 "Hunton, Addie Waites (1866-1943) - The Black Past: Remembered and Reclaimed". www.blackpast.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-01-31.
  6. 6.0 6.1 Chandler, Susan (2005). "Addie Hunton and the Construction of an African American Female Peace Perspective". Affilia 20 (3): 270–283. doi:10.1177/0886109905277615. https://archive.org/details/sim_affilia_fall-2005_20_3/page/270.
  7. Addie Waites Hunton - Oxford Reference. http://www.oxfordreference.com/view/10.1093/oi/authority.20110803095951356.
  8. "Addie Waites Hunton - WANMEC". www.toxipedia.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-13. Cyrchwyd 2017-01-31.
  9. Galwedigaeth: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.