Aderyn drycin Manaw

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Aderyn Drycin Manaw)
Aderyn drycin Manaw
Aderyn drycin Manaw (chwith) gydag Aderyn drycin du (de)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Procellariiformes
Teulu: Procellariidae
Genws: Puffinus
Rhywogaeth: P. puffinus
Enw deuenwol
Puffinus puffinus
(Brünnich, 1764)
Yr wy

Mae Aderyn drycin Manaw (Puffinus puffinus) yn aelod canolig o ran maint o'r teulu Procellariidae o adar môr. Fe'i gelwir yn Aderyn drycin Manaw oherwydd fod nifer fawr yn nythu ar y Calf of Man, ynys fechan gerllaw Ynys Manaw, ar un adeg. Gostyngodd y niferoedd yn sylweddol yno oherwydd effaith llygod mawr, er eu bod yn cynyddu bellach ar ôl difa'r llygod.

Mae'r rhywogaeth yma yn nythu ar hyd glannau rhan ogleddol Môr Iwerydd, yn enwedig ar ynysoedd; gydag ynysoedd Cymru yn un o'u cadarnleoedd. Amcangyfrifwyd yn 1997-8 fod 102,000 o barau yn nythu ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro, yn ôl pob tebyg y nifer mwyaf yn y byd, gyda 46,000 arall yn nythu ar Ynys Sgogwm. Mae nifer fawr hefyd yn nythu ar Ynys Enlli.

Ers tua 1970 maent wedi dechrau nythu ar hyd arfordir gogledd-ddwyreiniol Gogledd America hefyd. Maent yn nythu mewn tyllau, gan ddodwy un ŵy gwyn. Dim ond yn y nos y mae'r rhieni yn dod i'r tir, i osgoi adar ac anifeiliad rheibus, yn enwedig gwylanod. Maent yn paru am oes. Yn y gaeaf maent yn mudo i Dde America, i aeafu ger arfordir Brasil a'r Ariannin, pellter o dros 10,000 km.

Mae'r aderyn yn 30–38 cm o hyd a 76–89 cm ar draws yr adenydd, gyda chefn du a bol gwyn. Fel eraill o'r teulu mae ganddo ddull nodweddiadol o hedfan, gan ddal yr adenydd yn llonydd am gyfran helaeth o'r amser wrth hedfan yn isel dros y tonnau. Gellir gweld niferoedd mawr ohonynt yn mynd heibio'r arfodir yn yr hydref. Mae'n bwydo ar bysgod bychain ac anifeiliad bychain eraill.

Gallant fyw yn eithriadol o hir. Yn 2003-04 ystyrid Aderyn drycin Manaw oedd yn nythu ar Ynys Copeland yng Ngogledd Iwerddon y aderyn gwyllt hynaf yn y byd. Cafodd ei fodrwyo ym mis Gorffennaf 1953 pan oedd eisoes yn bump oed o leiaf, ac erbyn mis Gorffennaf 2003 yr oedd o leiaf 55 oed. Credir bod aderyn arall a fodrwywyd ar Ynys Enlli yn 1957 wedi teithio dros 8 miliwn km (5 miliwn o filltiroedd) yn ystod ei fywyd hyd yma; roedd yr aderyn yma yn dal yn fyw yn 2004.

Hanes golygu

A chofio mai puffin oedd enw gwreiddiol yr adar (eu cywion yn arbennig) sy'n nythu mewn tyllau mewn porfeydd arfordirol mae'r cofnodion hyn yn nodi safle tebygol hanesyddol sydd efallai yn anghof erbyn hyn:

Bu dryswch rhwng yr aderyn drycin a’r pal yn hanesyddol:

On Priestholme Island [ Ynys Seiriol ], as well as in some other parts of Wales, they have migratory1 birds, called Puffins, which are pickled and sold for the Tables of the Great. This is the Anas Arctica of Clusius, and the Pica Marina, or Fratercula2, of Gesner and Aldrovandus; and hath many English Names, as Pope, Mullet, Coulterneb3, Golden-head etc. NB. This is not the same bird as goes by the Name of Puffin in the Isle of Man.

1 felly aderyn drycin Manaw - dydi’r pal ddim yn mudo 2 felly y pal - enw gwyddonol heddiw am y pal yw ... Fratercula 3 felly y pâl - ystyr coulterneb yw trwyn fel cwlltwr.

In this Island Ynysoedd y Moerhoniaid , and also at the South Stack near Holyhead, Puffins breed in plenty which come in a surprising Manner all in a Flock in the Compass of one Night; and after the same Manner, when their Season comes, depart till next year (Ni all hwn fod ond yr aderyn drycin Manaw)[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Plans in St.Georges Channel - Lewis Morris 1748

Dolenni allanol golygu