Cangen o Gristnogaeth Brotestannaidd[1] yw Adfentyddiaeth sydd yn cynnwys sawl enwad sydd yn olrhain eu dysgeidiaeth i'r pregethwr o Fedyddiwr William Miller, un o arweinwyr yr adfywiad Americanaidd yn y 19g. Cyhoeddodd Miller y byddai Iesu Grist yn dyfod yn ôl i'r byd rhywbryd ym 1843 neu 1844.

Llwyddodd Miller i ddenu nifer o wrandawyr, ond cawsant eu dadrithio gan fethiant dyfodiad Iesu, yr hyn a elwir yn y Siomedigaeth Fawr. Rhannodd mudiad Miller yn sawl enwad, ar sail diwinyddiaeth ac athrawiaeth wahanol. Yr eglwys fwyaf ohonynt yw Adfentyddion y Seithfed Dydd, sydd yn cadw'r Saboth ar Ddydd Sadwrn. Mae tarddiad y Cristadelffiaid a Thystion Jehofa hefyd yn perthyn i Adfentyddiaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mead, Frank S; Hill, Samuel S; Atwood, Craig D (1995). "Adventist and Sabbatarian (Hebraic) Churches". Handbook of Denominations in the United States (arg. 12th). Nashville: Abingdon Press. tt. 256–76.