Adran Heddlu Boston
Heddlu sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith yn ninas Boston, Massachusetts, UDA, yw Adran Heddlu Boston (Saesneg: Boston Police Department). Sefydlwyd ym 1838, ac hwn yw'r heddlu trefol hynaf yn yr Unol Daleithiau ac eithrio Adran Heddlu Philadelphia ac Adran Heddlu Richmond.
