Afon yn Ffrainc sy'n un o lednentydd mwyaf afon Seine yw Afon Aube. Mae'n rhoi ei henw i département Aube.

Afon Aube
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr71 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.7467°N 5.1319°E, 48.5578°N 3.7156°E Edit this on Wikidata
TarddiadLangres Plateau Edit this on Wikidata
AberAfon Seine Edit this on Wikidata
LlednentyddAmance, Auzon, Aujon, Voire, Superbe, Huitrelle, Barbuise, Herbissonne, Aubette, Meldançon Edit this on Wikidata
Dalgylch4,595 ±1 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd248.3 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad41 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Afon Aube ger Bar-sur-Aube

Ceir ei tharddiad ger Praslay yn Haute-Marne, 380 medr uwch lefel y môr. Llifa tua'r gogledd-orllewin hyd at Montigny-sur-Aube, yna tua'r gogledd hyd Bar-sur-Aube, y dref fwyaf ar ei glannau. Oddi yno, llifa tua'r gogledd-orllewin eto i lifo i afon Seine ger Marcilly-sur-Seine.

Prif gymunedau ar yr afon

golygu